Back
Cyd-wau i helpu pobl â demensia


Daw grŵp o bobl ynghyd i wau yn rheolaidd mewn llyfrgell yn y ddinas i helpu pobl sy'n dioddef o ddemensia.

 

Mae aelodau grŵp Gwau a Sgwrs Llyfrgell Treganna yn cyfarfod bob bore Gwener am sgwrs wrth weithio ar eu project gwlanog diweddaraf, ac maent wedi troi eu sylw yn ddiweddar at greuTwiddlemuffsi helpu pobl â demensia sydd yn aml â dwylo aflonydd.

 

C:\Users\c080012\Desktop\Canton knit & Natter\IMG_3817.JPG

 

Tiwb o ffabrig, wedi'i wau neu ei grosio ywTwiddlemuff, gyda darnau o wahanol weadeddau, fel rhubanau a botymau, wedi'u gwau iddo.Gall helpu i leddfu aflonyddwch unigolion a thawelu eu hwyliau drwy gadw eu dwylo a'u meddyliau'n brysur.

 

 

Dywedodd Anne Walker, aelod o grŵp Gwau a Sgwrs:"Roeddwn i yng Nghaffi Demensia'r llyfrgell pan soniodd un o'r menywod o Hyb y Llyfrgell Ganolog amTwiddlemuffsa dangos un i ni.Felly soniais i am Twiddlemuffs wrth ein grŵp gwau sy'n cyfarfod ar ddydd Gwener, a meddylion ni y byddai'n rhywbeth y gallwn ei wneud."

 

Dathlodd y grŵp Gwau a Sgwrs, sy'n cyfarfod bob dydd Gwener rhwng 10.30am a 12pm yn Llyfrgell Treganna, ac sydd â thua 12 o bobl yn mynychu'n rheolaidd, ei bedwaredd flwyddyn yn ddiweddar.Mae'r grŵp yn aml yn gwerthu'r nwyddau maent yn eu gwau yn y llyfrgell ac yna'n rhoi'r elw i wahanol elusen bob tro.

 

C:\Users\c080012\Desktop\Canton knit & Natter\IMG_3804.JPG

 

Yn ôl Carole Thompson, un o'r aelodau gwreiddiol, nid gwau yn unig sy'n dod â'r grŵp ynghyd.

 

Dywedodd:"Mae'n grŵp rhwydweithio go iawn, ac mae'n gymdeithasol dros ben.Dydych chi ddim yn dod â phatrwm sy'n gymhleth gan nad ydych yn gallu canolbwyntio'n ormodol arno.Mae llawer o bobl yn ei fwynhau ac yn dweud ei fod yn elfen bwysig iawn o'u bywydau.Bydden nhw'n gweld ei eisiau pe na fyddai yma, ac mae'n dda iawn i'n lles."

 

Ychwanegodd Anne:"Daethom at ein gilydd go iawn pan aeth rhywun yn y grŵp yn sâl, a dechreuom gyfnewid rhifau ffôn er mwyn cadw golwg ar ein gilydd.Mae teimlad o gymuned yma, ac yn bersonol, dyma'r peth gorau yn y byd i mi.

 

"Rydym yn hapus i gefnogi'r caffi demensia drwy wau'rTwiddlemuffs.Mae gennym rai yma, ac mae croeso i unrhyw un ofyn am un os oes ei angen arno.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:"Mae Caerdydd yn gweithio gyda'r Gymdeithas Alzheimer a phartneriaid eraill i wneud ein dinas yn fwy ystyriol o bobl â demensia, mewn ymdrech i wella bywydau'r rhai y mae demensia yn effeithio arnynt.

 

"Mae rôl grŵp Gwau a Sgwrs Treganna yn flaenllaw yn y gwaith hwnnw. Mae'n braf iawn gweld grŵp o bobl yn dod ynghyd yn rheolaidd i wau a meithrin cyfeillgarwch, sy'n osgoi allgau cymdeithasol, yn gwneud ymdrech caredig i helpu pobl sy'n byw â demensia."

 

Mae Llyfrgell Treganna yn estyn croeso cynnes i'w chaffi demensia, sef man diogel y gall pobl â demensia, eu gofalwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol, ddod i gyfarfod a gwneud ffrindiau.Cynhelir y caffi ar ddydd Mercher olaf bob mis, rhwng 2.30pm a 3.30pm.

 

Os hoffech roi unrhyw wlân, botymau, gleiniau neu rubanau dros ben i grŵp Gwau a Sgwrs Treganna, dewch i sesiwn y grŵp ar fore dydd Gwener.