Back
Y cabinet yn cymeradwyo strategaeth Gwastraff

Mae'r nod i ddod yn un o ddinasoedd ailgylchu gorau'r byd wedi cael hwb heddiw, wrth i'r Cabinet gymeradwyo nifer o fesurau i gynyddu cyfradd ailgylchu a chompostio'r ddinas o 58% i 70% erbyn 2025.

Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi cytuno i leihau'n sylweddol y defnydd o ‘blastigau un-tro', gan gynnwys defnyddio llai ar gwpanau plastig a chyllyll a ffyrc plastig ac o fewn ein cadwyni cyflenwi.

Mae'r Cyngor wedi adolygu'r strategaeth gwastraff ac wedi pennu gwaith pellach sydd angen ei wneud i leihau gwastraff, tra'n cynyddu lefelau ail-ddefnyddio a chyfleoedd ailgylchu i breswylwyr a busnesau.

Mae'r prif gynigion yn cynnwys:

  • Arbrawf peilot gwydr;
  • Ymgynghori â chynghorwyr y wardgyda'r nod oehangu'r cynllun biniau olwynion;
  • Gwella addysg am ailgylchu mewn cymunedau ac yn y Canolfannau Ailgylchu a Gwastraff Cartref, a chynyddu'r ailddefnydd o ddeunyddiau;
  • Cynnal ymgynghoriad ar waith pellach ar y dair brif egwyddor; gwella seilwaith ailgylchu ar gyfer twf yn y dyfodol; ymchwilio i opsiynau gwahanol o ran patrymau gwaith ac ymchwilio i newidiadau posibl i'r gwasanaeth gwastraff gwyrdd (gardd).

60% yw cyfradd ailgylchu a chompostio Caerdydd ar hyn o bryd ond er mwyn osgoi dirwyon sylweddol gan Lywodraeth Cymru, rhaid i'r gyfradd godi i 64% erbyn 2020, ac i 70% erbyn 2025.

Bydd rhaid i'r Cyngor ailgylchu 17,000 o dunelli pellach o wastraff y ddinas erbyn 2025 i gyflawni targed 70% Llywodraeth Cymru. Byddai rhaid i'r Cyngor dalu dirwy o £200 am bob tunnell is na'r targed.Yng Nghaerdydd, petai'r ddinas yn parhau i ailgylchu ar gyfradd o 60%, gallai'r ddirwy erbyn 2025 fod cymaint â £10m.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu: "Mae gan Gaerdydd stori dda i'w hadrodd. Ni sydd â'r gyfradd ailgylchu orau o blith holl *Ddinasoedd Craidd y DU ac mae gennym gyfle i fod ymhlith y dinasoedd gorau yn y byd o ran ailgylchu. Dylai pawb yn y ddinas fod yn falch o'u hymdrechion i ailgylchu a hoffwn ddiolch i bob preswylydd sy'n chwarae ei ran i wneud Caerdydd yn ddinas wyrddach.

"Hoffem bwysleisio i'r preswylwyr nad yw hyn yn ymwneud â dirwyon Llywodraeth Cymru yn unig - er bod y ffigurau'n dweud y cyfan - ac mae'r gost o fethu yn sylweddol.

"Mae cyfle go iawn yma i ychwanegu enw Caerdydd at y rhestr yn y llyfrau hanes o'r dinasoedd gorau yn y byd o ran ailgylchu, a dylai pawb anelu at hyn a bod yn hynod o falch ohono.

 

"Mae cefnogaeth y cyhoedd yn hanfodol os ydym am wella ein perfformiad ailgylchu. Bydd gan bawb gyfle i ddweud eu dweud yn y misoedd nesaf pan fyddwn yn lansio ymgynghoriad ynghylch y cynigion. Mae'n bwysig bod trigolion yn deall yr hyn rydym yn ei wneud a pham, a'u bod yn helpu i lunio polisi a chyflawni ein targedau."

Yn rhan o'r cynllun peilot gwydr bydd 20,000 o aelwydydd ledled y ddinas yn cael cynhwysyddion arbennig er mwyn casglu gwydr ar wahân.

Aeth y Cynghorydd Michael yn ei flaen i ddweud: "Ar hyn o bryd, caiff gwydr ei gasglu ledled y ddinas mewn bagiau gwyrdd gan ei gymysgu â deunyddiau ailgylchu eraill. Mae'n costio £60 fesul tunnell i'r awdurdod brosesu'r gwydr a'i falu yn barod i'w ddefnyddio fel agreg ar gyfer adeiladu ffyrdd. Mae hyn yn costio tua £500,000 y flwyddyn i'r Cyngor. Os bydd y cynllun peilot yn llwyddiannus ac yn cael ei gyflwyno i bob aelwyd, gallai'r ffordd newydd o weithio wrth-droi'r gwariant hwnnw a hyd yn oed creu ffrwd incwm i'r Cyngor."

Yn rhan o'r arbrawf, bydd preswylwyr yn cael gwahanol fathau o gynwysyddion i storio eu gwydr er mwyn i'r Cyngor benderfynu pa un sy'n gweithio orau. Os bydd yn llwyddiannus, gallai gael ei gyflwyno i ardaloedd eraill y ddinas.

Mae'r strategaeth hon hefyd yn cynnwys ymgynghori ag aelodau lleol ynghylch ehangu'r cynllun biniau olwynion, a allai olygu rhoi biniau i 3,000 o eiddo pellach i roi eu gwastraff yn hytrach na bagiau plastig.

Dywedodd y Cynghorydd Michael: "Mae rhoi bagiau i breswylwyr yn hytrach na biniau yn costio tua £500,000 yn fwy y flwyddyn i'r Cyngor. Felly bydd newid i ddefnyddio biniau olwynion yn helpu i wneud arbedion ac mae newid i finiau yn hytrach na bagiau hefyd yn helpu'r ddinas o ran sbwriel ar ein strydoedd. Mae bagiau yn aml yn cael eu rhwygo ar agor gan anifeiliaid ac adar sy'n gwasgaru'r gwastraff ar hyd ein ffyrdd, ac mae biniau yn hytrach na bagiau hefyd yn gwella diogelwch ein staff.

"Rydym yn edrych ar y feini prawf cyflwyno'r biniau olwynion.Bydd y meini prawf hyn yn cynnwys p'un a oes gan eiddo ddigon o le o fewn ei ffiniau, bod biniau'n cael eu cadw ar lefel y ddaear, a bod o leiaf 80% o'r eiddo yn y stryd yn addas.

"Cydnabuwyd hefyd bod rhaid gwella'r ailgylchu sy'n digwydd yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGCau).Gwyddom y gall 80% o'r deunyddiau sy'n cael eu taflu i'r sgip 'gwastraff cyffredinol' gael eu hailgylchu yn y safleoedd hyn. Anogir preswylwyr i wahanu'r holl ddeunyddiau cyn iddynt fynd i CAGC, ond os ydynt yn cyrraedd un o'n safleoedd â gwastraff heb eu dosbarthu, bydd staff yn eu helpu i ailgylchu cymaint â phosibl yn un o'n 'gorsafoedd gwybodaeth' ar y safleoedd.

"Os deuir o hyd i eitemau y gellir eu hailgylchu, gofynnir i breswylwyr wahanu'r cynhyrchion hyn i wahanol gynwysyddion i'w hailgylchu, cyn taflu gweddill y gwastraff i sgip gwastraff cyffredinol.Defnyddiwyd y dechneg hon yn llwyddiannus yn Rhondda Cynon Taf ac yn Abertawe, a gallai gynyddu'r gyfradd ailgylchu bresennol ar y safleoedd hyn o 56% i hyd at 80%.

 

"Rydym hefyd yn ceisio adeiladu ar y partneriaethau llwyddiannus rydym wedi'u meithrin ag awdurdodau eraill o ran trin gwastraff bwyd a gwastraff cyffredinoldrwy ymgynghori pellach. Os yw'r achos busnes yn gryf, yna gallai'r un egwyddor gael ei mabwysiadu ar gyfer prosesu ailgylchu tu hwnt i ffiniau'r awdurdod drwy gyfleuster rhanbarthol. Gallai hyn gynyddu'r cyfraddau ailgylchu a lleihau costau prosesu drwy arbedion maint.

"Mae newidiadau i ddyfodol ein gwasanaeth gwastraff gwyrdd (gardd) hefyd yn cael eu trafod. Drwy ddadansoddi data sydd ar gael i ni, cesglir mwy na 14,000 tunnell o wastraff gwyrdd rhwng mis Ebrill a mis Medi. Yng ngweddill y flwyddyn, mae'n cwympo i ychydig yn llai na 6,000 tunnell.

"Rydym wedi monitro'r defnydd o'r gwasanaeth gwastraff gardd dros fisoedd y gaeaf, ac ar gyfartaledd, 2% o eiddo yn unig sy'n defnyddio'r gwasanaeth casglu bob mis.Dyma pam yr ydym yn awyddus i ddechrau ar drafodaethau i ystyried opsiynau gwahanol, gan gynnwys codi tâl ac opsiynau optio i mewn yn ystod misoedd y gaeaf, i wella effeithlonrwydd, ac i gynnig y gwasanaeth i'r preswylwyr sydd wir ei angen."

Bydd y Cyngor hefyd yndechrau ar drafodaethau iystyried gwahanol ddewisiadau ar gyfer patrymau gweithio i wella effeithlonrwydd. Mae'r dewisiadau'n cynnwys gweithio chwe diwrnod yr wythnos, gweithio dros nos a chasglu gwastraff ar wyliau'r banc.