Bydd Caerdydd yn cynnal Confensiwn Dinasoedd Creadigol y flwyddyn nesaf ar ôl i gais llwyddiannus y ddinas wneud yn well na Bryste a Glasgow a sicrhau un o brif gonfensiynau cyfryngau'r DU.
Daw'r newyddion o lwyddiant Caerdydd dim ond pedwar diwrnod ar ôl i'r ddinas gyflwyno cynnig ar wahân i ddod â phencadlys newydd Channel 4 i'r ddinas.
Mae'r confensiwn, sy'n gydweithrediad rhwng y BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 a Pact (corff masnachu i gynhyrchwyr teledu annibynnol) yn lle i bobl sy'n gweithio yn y cyfryngau creadigol yn y DU ddod ynghyd.
Roedd yn rhaid i Gaerdydd a'r ddwy ddinas arall ar y rhestr fer, Bryste a Glasgow, gyflwyno eu syniadau i ddirprwyon yng nghonfensiwn 2018, a gynhaliwyd yn Leeds y mis diwethaf.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae hyn yn newyddion da iawn i Gaerdydd.Gwnaeth sector creadigol y ddinas ddod ynghyd i greu'r cyflwyniad ar fyr rybudd ac mae'r llwyddiant yma'n gydnabyddiaeth amlwg fod sector creadigol Caerdydd yn ganolfan sy'n bwysig i Brydain gyfan.
"Mae'n dangos bod y diwydiant yn cydnabod bod Caerdydd yn rhan allweddol o'r sector hwn ac rydym yn gobeithio y bydd ennill y Confensiwn yn rhoi mwy o reswm i Channel 4 edrych ar brifddinas Cymru fel cartref delfrydol ar gyfer eu pencadlys newydd."
Dywedodd Ruth Pitt, Cyfarwyddwr Uwchgynhadledd Dinasoedd Creadigol:"Creodd cynnig Caerdydd argraff dda iawn ar bawb ar banel yr Her Dinas Fawr.Dangosodd brwdfrydedd ac egni tîm Caerdydd, yn ogystal â'r ffaith fod y sector cyhoeddus yn cefnogi'r cais, fod y ddinas yn wir yn ymrwymo wrth yr achos ac y bydd yn ddinas groeso wych ar gyfer uwchgynhadledd y flwyddyn nesaf.Bu'r Uwchgynhadledd Dinasoedd Creadigol yn Leeds yn llwyddiant enfawr a sbardunodd trafodaethau pwysig ynghylch sut y gallwn wneud i'n diwydiant gynrychioli poblogaeth y DU yn well.Rydyn ni'n edrych ymlaen yn arw at barhau â hyn yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf."
Mae'r sector creadigol yng Nghaerdydd yn cyflogi 15,000 o bobl ac yn cyfrannu dros £1 biliwn i'r economi. Yn ogystal â bod yn gartref i rai o ddarlledwyr mwyaf y wlad mae yma hefyd sin annibynnol gref sy'n manteisio ar ein gweithlu medrus, gyda chefnogaeth prifysgolion y ddinas."
Ychwanegodd y Cyng. Thomas:"Yr hyn sy'n gwneud Caerdydd yn unigryw yw ysbryd cydweithredol cymuned greadigol y ddinas. Rydym am i'r Confensiwn Dinasoedd Creadigol fanteisio ar yr ysbryd hwnnw a chroesawn ein cydweithwyr cyfryngol o bob rhan o'r DU i'n dinas flaenllaw ac uchelgeisiol fel y gallwn rannu a gwrando ar eu cyflawniadau tra'n dathlu'r oes aur newydd hon i ddarlledu a chynhyrchu yng Nghymru.Mae'r sector creadigol yn stori lwyddiant go iawn yng Nghaerdydd, ac yn un yr ydym yn gobeithio ei datblygu, er enghraifft drwy wneud cais i fod yn gartref newydd i Channel 4."
Cynhaliwyd confensiwn eleni yn Leeds gyda'r newyddiadurwr a'r darlledwr Kirsty Wark, ac roedd ystod o siaradwyr gwadd poblogaidd yno, gan gynnwys Prif Weithredwr Channel 4, Alex Mahon.
Cynhaliwyd yr Uwchgynhadledd Dinasoedd Creadigol yn Leeds ar 25 a 26 Ebrill 2018. Gyda chefnogaeth y BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 a Pact, roedd yr uwchgynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau gan bobl blaenllaw yn y diwydiant yn cynnwys, Syr Peter Bazalgette, Ben Frow, Alex Mahon a Charlotte Moore.
Cyhoeddir dyddiadau uwchgynhadledd 2019 yn yr hydref.
I ddysgu mwy, ewch iwww.creativecitiesconvention.com