Back
Cyngor ar Deithio ar gyfer Monster Jam yn Stadiwm Principality

Ddydd Sadwrn, 19 Mai, bydd rhai strydoedd yng nghanol y ddinas yn cael eu cau o 12.30pm tan 6.30pm ar gyfer y digwyddiad Monster Jam yn Stadiwm Principality.

Dylai pob deiliaid tocyn nodi y bydd trefniadau diogelwch estynedig ar waith wrth fynd i mewn i'r stadiwm. Cynghorir cefnogwyr i adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau a waherddir ynprincipalitystadium.walescyn teithio i'r ddinas.

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau yn rhan o batrwm cau ffyrdd canol y ddinas (12.30pm tan 8.30pm)

  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair.
  • Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
  • Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sy'n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
  • Bydd y ffyrdd canlynol ynghau ar eu hyd: Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.

Ychwanegiadau: 
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy gydol y dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio cyn y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

O 6:00pm tan 9.30pm, bydd Rhodfa'r Orsaf ar gau. Bydd cerbydau yn gallu gadael maes parcio Canolfan Siopa'r Capitol drwy Stryd Ogleddol Edward, Rhodfa'r Orsaf a theithio tua'r gogledd at Heol Casnewydd a Dumfries Place.

Noder: 
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd gyferbyn â Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.

Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, yna bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys. 

Cynghorir cefnogwyr felly i gynllunio i gyrraedd y stadiwm mewn digon o amser, gadael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r eitemau na chaniateir ar www.principalitystadium.cymru

Trenau

MaeGreat Western Railwayyn cynghori pob cwsmer y cynigir gwasanaeth bws yn hytrach na threnau rhwng Bristol Temple Meadsa Bristol Parkwayar y dydd Sadwrn a dydd Sul. Bydd rhaid i'r rheiny sy'n teithio o Bristol Temple Meads deithio ar wasanaeth amgen i Bristol Parkway a newid i gael gwasanaeth i Gaerdydd.

Oherwydd y Briodas Frenhinol yn Llundain, disgwylir y bydd y rhwydwaith i Lundain yn brysur dros ben ddydd Sadwrn.

MaeTrenau Arriva Cymruyn cynghori cwsmeriaid y bydd gwasanaethau trên i ardal Caerdydd yn brysur drwy'r dydd ac y bydd capasiti ychwanegol ar gael lle bynnag y bo'n bosibl.

Bydd system reoli ar waith yn dilyn y digwyddiad yng Ngorsaf Caerdydd Canolog a gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd.

Dylid defnyddio Gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd ar gyfer yr holl wasanaethau lleol ac i'r  Cymoedd, gan gynnwys y gwasanaeth i Benarth, Y Barri, Coryton, Radur, Merthyr, Treherbert, Aberdâr a'r Rhymni.

Dylai'r holl wasanaethau i Faesteg a Glyn Ebwy ddefnyddio Gorsaf Caerdydd Canolog. Bydd yr holl wybodaeth am Wasanaethau Trenau Arriva yn ystod diwrnodau pan gynhelir digwyddiadau ar gael arwww.arrivatrains.wales/events.

Cynghorir teithwyr i gynllunio eu siwrneiau ymlaen llaw arwww.nationalrail.co.uk; neu drwy ffonio Travel Line Cymru ar 0800 464 0000.

Parcio a Theithio ar gyfer Digwyddiad

Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Lecwydd, a gellir mynd yno o gyffordd 33 yr M4 ac yna dilyn yr arwyddion i'r safle.

I gadw lle Parcio a Theithio ymlaen llaw, ewch i - https://www.parkjockey.com/principality-stadium

Y man gollwng yw Gogledd Ffordd Tresillian, y tu ôl i'r orsaf drenau.

Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.

Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £8, neu £10 ar y diwrnod (arian parod yn unig).

Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 8.30am a bydd y safle yn agor am 9.00am, gyda'r bws cyntaf yn gadael am 9.00am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 7pm a bydd y maes parcio'n cau am 7.30pm.

Traffyrdd a phriffyrdd

Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir deiliaid tocynnau i gynllunio ymlaen llaw  gan roi ystyriaeth i draffyrdd a phriffyrdd prysur. Disgwylir i goridor yr M4 a Chaerdydd fod yn brysur iawn.

Parcio ar y Diwrnod

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadael cyffordd 32 yr M4

Cost: £15 i'w dalu yn y maes parcio (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

Noder: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 6.30pm; gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau a adawir yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)

Cyrraedd yno: Gadewch gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Cost: Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £15, neu £12 ar y diwrnod (arian parod yn unig). I gadw lle parcio ymlaen llaw, cliciwch ar: https://www.parkjockey.com/principality-stadium (ar gael i geir yn unig).

Amseroedd parcio: Mae'r maes parcio ar agor am 7.30am a bydd ar agor am 8am ac mae'n rhaid i bob car fod oddi yno neu wedi arddangos tocyn talu ac arddangos erbyn 8am ddydd Sul, 20 Mai.

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheiny sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio.  Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn gyfforddus mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd y byddai 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gallu gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau.

Parcio i Bobl Anabl

Cynghorir gyrwyr anabl i ddefnyddio Gerddi Sophia. Mae llefydd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol. Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsi Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 12.30pm ac yn ailagor am 8.30pm.

Bws

Bysus lleol: 
Caiff bysus eu dargyfeirio o orsafoedd bws canol Caerdydd. Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd a fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill tua'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion tua'r gogledd neu Stryd Tudor tua'r gorllewin. 
 
Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybr bws penodol.
 
National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel arfer.