Back
Ysgolion cynradd Caerdydd yn mynd ar daith yn y gwyllt

Mae dros 200 o blant ysgolion cynradd yng Nghaerdydd yn helpu i roi cartref i fyd natur fel rhan o daith Cerdded yn y Gwyllt RSPB Cymru

Drwy gydol mis Mai bydd dros 200 o blant o bedair ysgol gynradd yng Nghaerdydd yn codi arian hanfodol i fyd natur wrth iddynt gymryd rhan mewn taith gerdded noddedig ym Mharc Bute Caerdydd.

Ar 9 a 10 Mai bydd dros 175 o blant yn ymuno â thîm RSPB Cymru wrth iddynt ddysgu mwy am bryfed, adar a bwystfilod bach Caerdydd gan fwynhau taith gerdded noddedig 2m o amgylch y parc. Yna, byddant yn dathlu bywyd gwyllt Caerdydd a'i fannau gwyrdd gyda digwyddiad peintio byw ar Rodfa'r Mileniwm Caerdydd, lle byddant yn creu gwaith celf cyhoeddus anferth wedi'i ysbrydoli gan fyd natur gyda'r arlunydd lleol Millimagic.

Ond nid dyna'r cwbl. Bydd dros 30 o blant hefyd yn mwynhau taith Cerdded yn y Gwyllt eu hunain drwy gydol mis Mai wrth iddynt gynnal taith gerdded noddedig i fyd natur ar dir eu hysgolion, gan godi mwy fyth o arian i'n bywyd gwyllt trefol yng Nghaerdydd.

Meddai'r Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bob Derbyshire:"Dewisais RSPB Cymru a Buglife Cymru fel Elusennau'r Flwyddyn oherwydd y gwaith gwych maent yn eu cyflawni i warchod a helpu ein hamgylchedd naturiol. Os rydym yn gwerthfawrogi'r bywyd gwyllt o'n cwmpas mae gymaint ar gael yng Nghaerdydd, dyma pam mae Cerdded yn y Gwyllt yn syniad mor dda - yn ogystal â chodi arian hanfodol i helpu natur yng Nghaerdydd, mae'r daith hefyd yn gyfle i blant fwynhau'r awyr agored a'r bywyd gwyllt ar eu stepen drws. Os hoffech helpu byd natur gallwch roddi i Elusennau'r Flwyddyn ynhttps://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Yr-Arglwydd-Faer/Elusen-ddewis-yr-Arglwydd-Faer/Pages/default.aspx"

Dywedodd Swyddog Codi Arian yn y Gymuned RSPB Cymru, Rob Williams:"Rydym mor falch o weld cymaint o blant allan yn yr awyr agored, yn mwynhau natur ac yn codi arian hanfodol i helpu ein bywyd gwyllt yng Nghaerdydd. Mae Cerdded yn y Gwyllt yn gyfle perffaith i blant ddarganfod y bywyd gwyllt lleol a gwerthfawrogi'r byd natur sydd gan Gaerdydd i'w gynnig. Y gobaith yw y bydd y profiad hwn yn aros yn eu cof am flynyddoedd i ddod wrth iddynt barhau i ofalu am ein bywyd gwyllt ar dir eu hysgolion."

Ers 2014 mae project Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd RSPB Cymru wedi bod yn brysur yn dod â phlant a'u teuluoedd yn nes at natur ledled y ddinas. Mae wedi darparu sesiynau allgymorth am ddim i dros 81% o ysgolion cynradd Caerdydd, gan ddod â dros 15,000 o blant i gysylltiad â byd natur. Mae wedi helpu cymunedau yn holl wardiau Caerdydd i dreulio mwy o amser gyda bywyd gwyllt drwy ddigwyddiadau am ddim i'r teulu, ac wedi gweithio gyda gwirfoddolwyr lleol sydd wedi treulio cymaint â 5,000 o oriau yn helpu cymunedau i ymwneud â byd natur yn y ddinas.

Dywedodd Rheolwr Project Rhoi Cartref i Natur yng Nghaerdydd, Carolyn Robertson: "Rydym yn gwybod erbyn hyn yn anffodus mai dim ond un plentyn o bob wyth yng Nghymru sydd mewn cysylltiad rhesymol â'r amgylchedd naturiol, gydag un o bob 14 o rywogaethau yng Nghymru dan fygythiad o ddiflannu'n llwyr. Felly mae'n hynod gyffrous gweld cymaint o blant yn dod yn nes at natur fel rhan o Cerdded yn y Gwyllt ac yn mwynhau profiad dysgu unigryw a chofiadwy y tu allan i'r ystafell ddosbarth."

Diolch i arian gan y Gronfa Loteri Fawr, nod Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd yw ennyn diddordeb 50,000 yn rhagor o blant a'u teuluoedd mewn byd natur yn y ddinas erbyn 2022 a darparu sesiynau allgymorth rhad ac am ddim yn holl ysgolion cynradd Caerdydd er mwyn helpu disgyblion i ddod o hyd i'r byd natur sydd ar dir eu hysgolion. Mae'r prosiect hefyd wedi sefydlu partneriaeth gyffrous â Buglife Cymru er mwyn cynyddu nifer y cynefinoedd sy'n gyfeillgar i bryfed peillio ar hyd a lled y ddinas.

Mae Arglwydd Faer Caerdydd wedi dewis RSPB Cymru a Buglife Cymru fel Elusennau'r Flwyddyn ar gyfer 2017/2018. Bydd yr holl arian fydd yn cael ei godi yn ystod Cerdded yn y Gwyllt yn helpu i achub byd natur yng Nghaerdydd, gan sicrhau y gall ein bywyd gwyllt trefol ffynnu.

#CaerdyddGwyllt
 

Photo - Martyn Poyner