Back
Diweddariad - Trafnidiaeth allyriadau isel ar gyfer y ddinas

Cytunwyd ar gynllun peilot newydd i gynyddu nifer y mannau gwefru cerbydau trydanol ym mhrifddinas Cymru gan Gabinet Cyngor Caerdydd heddiw.

Mae'r Cabinet hefyd wedi cymeradwyo amrywiaeth o fesurau eraill drwy gynllun gweithredu i leihau ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil i wella'r amgylchedd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael:"Mae nifer o ffyrdd gwahanol o wneud Caerdydd yn ddinas werddach ac mae'r adroddiad hwn yn edrych yn benodol ar drafnidiaeth a'r angen i symud tuag at danwyddau adnewyddadwy i leihau allyriadau carbon y ddinas a'r lefelau o nitrogen deuocsid.

"Mae hyn i gyd wedi'i gysylltu â lansiad diweddar y Papur Gwyrdd ar Drafnidiaeth ac Aer Glân sy'n gofyn am farn y cyhoedd ar amrywiaeth o faterion i wella ansawdd aer a lleihau tagfeydd yn y ddinas.

"Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i leihau allyriadau carbon yng Nghaerdydd ac mae trafnidiaeth yn cyfrannu'n sylweddol at y broblem. Yn y DU, mae allyriadau o drafnidiaeth yn cyfrannu 24% o'r holl allyriadau carbon sy'n cael eu rhyddhau.

"Er nad ydym yn rheoli trafnidiaeth gyhoeddus yn y ddinas, mae gennym ddylanwad sylweddol ac fel awdurdod lleol gallwn weithredu fel ‘catalydd ar gyfer newid'. Mae nifer o bethau y mae angen eu newid i gyflawni ein nodau.

"Yn gyntaf, mae angen i ni sicrhau nad yw ein fflyd o gerbydau'n ddibynnol ar injans petrol neu ddiesel a hoffem ni wireddu'r dyhead hwn ar gyfer ein fflyd fach o gerbydau erbyn 2022, gan newid y Cerbydau Nwyddau Trwm (HGV) i danwydd amgen erbyn 2030.

"Cerbydau trydanol yw'r dewis mwyaf cost-effeithiol ar gyfer cerbydau bach, ceir a rennir a'n faniau gwyn llai, ar yr amod bod digon o fannau gwefru. Mae llai o ddewisiadau allyriadau isel ar gyfer cerbydau trwm ond mae'r gwaith ymchwil ar y dewisiadau sydd ar gael, gan gynnwys y defnydd o hydrogen, yn cynyddu'n gyflym.

Dyma'r camau gweithredu eraill sydd wedi'u nodi er mwyn symud i ffwrdd o danwyddau ffosil a thuag at danwyddau amgen:

        Gwneud astudiaeth i ddeall y galw am seilwaith gwefru trydanol a lleoliadau ar ei gyfer yng Nghaerdydd a gwneud cais am gyfleoedd a chyllid grant gyda'r sector preifat i gynnig cyfleusterau gwefru trydanol yng Nghaerdydd.

        Gweithio gyda Bws Caerdydd i nodi ffynonellau cyllid ar gyfer cyfleoedd i fysus ddefnyddio tanwyddau amgen a datblygu strategaeth hirdymor erbyn 2019;

        Gweithio gyda'r gymuned tacsi leol fel ei bod yn deall y cyfleoedd i symud i ffwrdd o injans petrol a diesel a thuag at gerbydau trydanol neu hybrid.Caiff strategaeth reoliadol ddrafft, gan gynnwys dull y Cyngor o gaffael gwasanaethau tacsi, ei hysgrifennu yn 2019;

        Gweithio gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol i sicrhau bod yr holl bartneriaid yng Nghaerdydd yn gweithredu ar y cyd i fynd i'r afael â phroblemau ansawdd aer;

        Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phrifysgolion i barhau i ystyried ffynonellau lleol o hydrogen a thanwyddau bio-nwy yn hydref/gaeaf 2018;

        Ystyried projectau ‘Cerbyd i'r Grid' a fydd yn seiliedig ar gyflwyno'r seilwaith gwefru trydanol o wanwyn 2019;

        Datblygu achos busnes yn haf 2019 ar gyfer hyb gwefru cerbydau trydanol a fydd yn gysylltiedig â'r fferm solar yn Ffordd Lamby;

        Annog cyflenwyr a chontractwyr i ymrwymo i leihau allyriadau yn rhan o'r broses dendro ar gyfer contractau addas erbyn hydref/gaeaf 2018.

Dywedodd y Cynghorydd Michael: "Er 2014, mae cynnydd wedi'i wneud trwy leihau allyriadau carbon o'n fflyd ein hunain gan 10%. I gefnogi'r cam hwn oddi wrth injans petrol a diesel, mae nifer y mannau gwefru trydanol wedi cynyddu'n sylweddol, ar safleoedd y Cyngor ac mewn meysydd parcio cyhoeddus neu gymunedol.

"Fel Cyngor, gallwn ddylanwadu trwy ein proses dendro i annog ein cyflenwyr i ymrwymo i leihau allyriadau a gallwn gynnwys y gofynion hyn yn y contractau rydym yn eu cynnig.

"O ran caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau, caiff canllaw cynllunio atodol ei drafod gan y Cabinet i gynyddu'r cyfle i ddatblygwyr gynnwys mannau gwefru trydanol mewn eiddo preswyl mewn datblygiadau arfaethedig."

Mae'r camau gweithredu a'r dyddiadau targed a'r manylion a nodwyd yn yr adroddiad bellach wedi'u cymeradwyo, gan alluogi swyddogion i wneud cais am gyllid grant i sicrhau bod seilwaith gwefru ac ail-lenwi ar waith i gefnogi cerbydau allyriadau isel.