Back
Llwyfan gyrfaoedd digidol y genhedlaeth nesaf yn agor byd o bosibiliadau i gynulleidfa newydd

Am y tro cyntaf erioed, mae gan unigolion, gweithwyr ym myd addysg a chyflogwyr ffordd bwrpasol, ddiogel ac am ddim i gysylltu â'i gilydd ar-lein. 

Gyda chefnogaeth buddsoddiad gan Gyngor Caerdydd a Banc Datblygu Cymru, mae Digital Profile wedi creu'r genhedlaeth nesaf o'i lwyfan gyrfaoedd. 

Mae Ken Poole, Pennaeth Datblygu Economaidd yng Nghyngor Caerdydd a
Dywedodd Dan Lewis, sylfaenydd Digital Profile 

Dywedodd Dan Lewis, sylfaenydd Digital Profile:"Mae popeth heddiw yn sydyn.Mae unigolion am gael popeth yn gyflym ac effeithlon.Llwyfan gyrfaoedd newydd yw Digital Profile sy'n newid sut y mae pobl yn chwilio, gwneud cynnydd ac yn uwchsgilio yn y byd gwaith." 

Mae Cyngor Caerdydd, drwy ei fenter Addewid Caerdydd, wedi cydweithio â Digital Profile i ddatblygu'r cynnyrch i gynnwys nodweddion ar gyfer ysgolion a cholegau'r ddinas.Bellach, mae hefyd ar gael i grwpiau ieuenctid sy'n helpu pobl ifanc i gyrchu'r byd gwaith. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Mae Addewid Caerdydd yn creu cysylltiadau cryf rhwng ein hysgolion a'n cyflogwyr.Golyga hyn y gallwn sicrhau bod plant a phobl ifanc Caerdydd yn cael y cyfle gorau i ddatblygu'r mathau o sgiliau y mae cyflogwyr yn y ddinas, ac yn ehangach yn y rhanbarth, yn chwilio amdanynt, er mwyn iddynt fanteisio'n llawn ar ein heconomi leol ffyniannus. 

"Mae Digital Profile yn cynnig cymuned ddiogel lle gall disgyblion a myfyrwyr, ysgolion a cholegau, busnesau a sefydliadau gysylltu a rhyngweithio â'i gilydd.Mae'r dull uniongyrchol, syml hwn o gyfathrebu wedi dod â dimensiwn ar-lein pwerus i Addewid Caerdydd." 

Mae dros 80 o gyflogwyr wedi rhoi eu cefnogaeth i Addewid Caerdydd hyd yn hyn o wahanol sectorau, sy'n cynnwys cyllid, peirianneg, y cyfryngau, y celfyddydau creadigol, technoleg gwybodaeth, pensaernïaeth, chwaraeon, lletygarwch, manwerthu, adeiladu, cynhyrchu, addysg, hyfforddiant a'r amgylchedd. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:"Rydym yn falch o fod wedi ymuno â Banc Datblygu Cymru i fuddsoddi yn Digital Profile. 

"Bydd lansiad Digital Profile y genhedlaeth nesaf yn dangos y sail gref o sgiliau digidol sydd gennym yn y Ddinas-ranbarth a rôl y Tramshed Tech yn Grangetown wrth feithrin sgiliau digidol." 

GWYLIO: Mae Ken Poole, Pennaeth Datblygu Economaidd yng Nghyngor Caerdydd, yn siarad am y buddiannau y bydd platfform gyrfaoedd ar-lein y genhedlaeth nesaf yn ei gyflwyno i Addewid Caerdydd - gan greu cysylltiadau rhwng cyflogeion, ysgolion a phobl ifanc. 

Dywedodd Ben Rose, Rheolwr Rygbi Rhanbarthol Undeb Rygbi Cymru:"Drwy weithio gydag Addewid Caerdydd, byddwn yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc i gymryd rhan mewn rygbi a'r busnes y tu ôl iddo drwy amrywiaeth o gyfleoedd sy'n addas at y diben, gan roi llwybr bywyd cadarnhaol iddynt." 

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Gwesty Radisson Blu, Caerdydd: "Mae sicrhau ein bod yn cysylltu â phoblogaeth ifanc Caerdydd i wneud lletygarwch yn rhagolwg gyrfaol deniadol iawn, yn hanfodol.Mae Addewid Caerdydd a Digital Profile yn rhoi'r cyfleoedd i ni ddangos y diwydiant ar ei orau, ac i weithio'n agos iawn gyda'r sector addysg yn y ddinas." 

Dywedodd Steve Perham, Swyddog Gwarant o Dîm Ymgysylltu Arbenigol y Llu Awyr Brenhinol:"Mae'r Llu Awyr Brenhinol yn falch o weithio mewn partneriaeth ag Addewid Caerdydd a Digital Profile.Rydym yn gyffrous dros ben ynghylch sut y bydd Digital Profile yn ein galluogi i gysylltu pobl ifanc ac unigolion talentog ledled Caerdydd a thu hwnt â'r ystod lawn o gyfleoedd o fewn y byd gwaith." 

Ar gyfer unigolion, mae Digital Profile yn golygu y gallant rannu eu profiadau, eu cymwysterau a'u sgiliau yn uniongyrchol â chyflogwyr.Gall busnesau gynnig cyfleoedd cyflogaeth a phrentisiaeth, heb yr angen am drydydd parti.A gall ysgolion a cholegau greu cysylltiadau uniongyrchol â chyflogwyr mawr, gan gyfoethogi'r cwricwlwm a rhoi cipolwg o'r amrywiaeth o swyddi y mae'r ddinas yn ei chynnig. 

Ychwanegodd Dan Lewis:"Rydym yn cynnig cysylltiadau rhwng sawl sector yn y byd gwaith, gan alluogi'r cyfleoedd i lifo drwy wahanol sianeli er mwyn targedu'r bobl gywir.Ein nod yw helpu dros 5 miliwn o bobl yn y 3 blynedd gyntaf i ddatblygu eu gyrfa." 

Gallwch ymuno â Digital Profile yn rhad ac am ddim a'i gyrchu ar-lein drwy  www.digitalprofile.com