Back
Wythnos Genedlaethol y Prentisiaethau – Mawrth 5-9 2018

 

Wythnos Genedlaethol y Prentisiaethau - Mawrth 5-9 2018

Ledled y wlad, mae pobl yn dathlu wythnos Genedlaethol y Prentisiaethau.Un o'r ffyrdd mae pobl yn gwneud hynny yw trwy dynnu sylw at gyflawniadau a llwyddiannau prentisiaid.  Mae dau brentis yn cael eu cydnabod trwy enwebiad ar gyfer dyfarniad cenedlaethol.

Mae Louis Talbot yn hyfforddai gyda'r adran Briffyrdd ac mae yma ers mis Awst 2016. Mae Louis wedi bod yn meithrin sgiliau ac yn gwneud cymhwyster mewn gwaith stryd, draenio, goleuadau stryd a rheoli traffig.  Mae wedi ei enwebu ar gyfer gwobr Prentis y Flwyddyn yn seminar Priffyrdd a Goleuadau Stryd APSE 2018. Bydd y gwobrau'n cael eu rhoi'n nes ymlaen y mis hwn yn Blackpool.  Dwedodd Andy Davis ""Wedi goresgyn nifer o rwystrau, gan gynnwys codi'n gynnar yn y bore, diffyg profiad gweithio ar y rheng flaen a gweithio gyda chydweithwyr â blynyddoedd o brofiad sydd weithiau yn gaeth i'w ffyrdd o weithio, mae wedi datblygu yn aelod sgilgar y gallwch ymddiried ynddo o'r tîm gweithredol. Buaswn i'n awgrymu y bydd Louis yn weithiwr cyngor gwerthfawr am flynyddoedd i ddod."

Cafodd Michael Thomas, sy'n brentis gyda Rheoli Gwastraff, ei enwebu ar gyfer gwobr Prentis y Flwyddyn Sector Cynghrair Sgiliau Ansawdd - a bu'n fuddugol.   Dywedodd Lee Jones, Goruchwylydd Sbwriel Gwasanaethau Cymdogaethau "Mae tiwtoriaid wedi gweld cynnydd yn hyder Michael, mae wedi meithrin sgiliau hollbwysig ac mae i'w weld yn fwy hamddenol, hapus a chymwynasgar gyda chydweithwyr.  "Bydd y profiad yn helpu i wella cyflogadwyedd Michael a thrwy hynny caiff yr hyder i ymgymryd â rhagor o hyfforddiant ac addysg yn y dyfodol."

Dim ond dwy enghraifft o blith amryw yw'r rhain sy'n dangos sut y gall prentisiaethau fod yn wych i'r unigolyn ac i gyflogwyr a busnesau hefyd.  Rydym ni'n siŵr eich bod chithau fel ni yn estyn llongyfarchiadau i Michael ac yn dymuno pob lwc i Louis!

#NAW2018