Back
Cyngor Caerdydd yn cipio gwobr dwbl ar gyfer y cynllun prentisiaeth gwastraff

Mae'r Gynghrair Sgiliau Ansawdd, sy'n dathlu llwyddiant a chyflawniadau prentisiaid a'u cyflogwyr, wedi gwobrwyo Rheoli Gwastraff Cyngor Caerdydd gyda dwy anrhydedd yng ngwobrau mawreddog eleni.

Yn ystod wythnos Prentisiaethau Cenedlaethol (5-9 Mawrth), enillodd yr awdurdod lleol "Cyflogwr y Flwyddyn" gorau ac fe enillodd y Gweithredwr Glanhau Stryd Michael Thomas y wobr gyntaf ar gyfer "Prentis Sector y Flwyddyn".

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, a y Cynghorydd Sarah Merry:"Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu a hyrwyddo prentisiaethau, gan sicrhau bod unigolion yn cael mynediad at gyfleoedd mewn addysg bellach, cyflogaeth a hyfforddiant wrth adael ysgol.

"Mae'r gwobrau hyn yn dangos nid yn unig gwaith caled ein prentisiaid, ond hefyd ein staff a'n rheolwyr, gan fod eu hanogaeth a'u cymorth yn sicrhau y gall unigolion ddatblygu a chyflawni o fewn y gweithle."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael:"Mae hwn yn ganlyniad ardderchog ac yn gydnabyddiaeth o ymdrechion y timau goruchwyliwr a rheoli gwastraff wrth gefnogi dysgwyr i gynnal eu prentisiaethau.

"Yn ogystal â buddsoddi mewn pobl i wneud yn siŵr eu bod wedi'u harfogi â'r sgiliau i ddarparu gwasanaeth rhagorol, mae'r Cyngor hefyd yn buddsoddi mewn adnoddau i roi i'n gweithlu rheng flaen yr offer diweddaraf er mwyn cadw i fyny â defnydd cynyddol o dechnoleg o fewn y diwydiant.

"Mae'r gwobrau hyn hefyd yn gyfle i arddangos ymrwymiad  a chyfraniad Cyngor Caerdydd at brentisiaethau a hyfforddiant ar draws y sefydliad.

Enwebwyd Michael Thomas gan ei oruchwyliwr oherwydd y newidiadau cadarnhaol a wnaeth ers bod ar y cynllun prentisiaeth.

Dywedodd Lee Jones, Goruchwyliwr Gwasanaethau Gwastraff Cymdogaeth Cyngor Caerdydd:"Mae tiwtoriaid wedi gweld cynnydd yn hyder Michael, mae wedi ennill sgiliau hanfodol ac ymddangos yn fwy digyffro, hapus a chymwynasgar tuag at gydweithwyr.

"Bydd y profiad yn helpu gwella rhagolygon gwaith Michael a thrwy ef felly yn rhoi hyder iddo i ymgymryd â mwy o hyfforddiant ac addysg yn y dyfodol."

Cafodd Cyngor Caerdydd ei enwebu ar gyfer y wobr gan Safe and Secure Training, partner sy'n darparu'r cynllun Prentisiaeth Rheoli Adnoddau Cynaliadwy ym maes Rheoli Gwastraff.

Dywedodd Rheolwr Prosiect Safe and Secure Training, Dan Costello:"Mae Cyngor Caerdydd wedi dangos dim byd ond cymorth i helpu eu cydweithwyr i ddysgu ymhellach, ar ôl gadael addysg gydag efallai gydag ond ychydig o gymwysterau neu ddim o gwbl.

 

"Mae hyn yn cynnwys argymell y brentisiaeth Rheoli Adnoddau Cynaliadwy i'r holl weithwyr y credant y byddant yn gweld budd drwy gwblhau hynny.Hefyd, mae Cyngor Caerdydd wedi helpu trefnu diwrnodau agored ar gyfer unrhyw un sydd efallai'n ystyried cymryd rhan mewn prentisiaeth, lle gall pob cwestiwn gael eu hateb ar sail un-i-un."