Mae Cyngor Caerdydd wedi gweithio’n ddiflino i raeanu’r prif
lwybrau ar draws Caerdydd. Mae’r tywydd heno’n golygu bod y ffyrdd yn anodd
iawn i gerbydau.
Fodd bynnag, mae’r gwaith sydd wedi’i wneud wedi sicrhau nad
oes llawer o gerbydau wedi mynd yn sownd ar draws y rhwydwaith a bod
dinasyddion wedi cyrraedd adre’n saff.
Bydd y gwaith o raeanu’r ffyrdd yn
parhau drwy’r nos ac yfory, ond wrth i’r tywydd garw barhau bydd effaith y
graean yn lleihau. Os bydd yr eira’n ddwfn, caiff erydr eira eu defnyddio, ond
ni ellir ond defnyddio’r rhain ar gyfer eira dros 4-5cm o ddyfnder.
Oherwydd y rhybudd tywydd coch digynsail, bydd ffyrdd yn
parhau’n anodd iawn i gerbydau yn y bore a gydol yfory, ac felly ni ddylech ond
gyrru fel dewis olaf. Mae’n debygol y bydd gwasanaethau Bws Caerdydd a Threnau
Arriva yn gyfyngedig felly cadarnhewch cyn gadael eich cartref.
Byddwch yn
ddiogel ac os oes rhaid i chi yrru sicrhewch eich bod wedi paratoi gyda dillad
cynnes, fflasg o ddiod boeth a rhaw.