Back
Datganiad gan Gyngor Caerdydd ar y cyngor ar dywydd garw i ysgolion

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi diweddaru eu rhybuddion i ddydd Iau 1 Mawrth. Y Rhybudd Ambr yw bellach y lefel uchaf o Rybudd Ambr bosib o 12.00 (ganol dydd) dydd Iau 1 Mawrth. 

Yn y rhybudd, mae Rhagolygydd y Swyddfa Dywydd wedi dweud bod "disgwyl oedi hir a chanslo trafnidiaeth gyhoeddus, er y gallai rhai ffyrdd fod wedi'u blocio gan eira dwfn, gan effeithio ar gerbydau a theithwyr. Mae'n debygol y bydd cyflenwadau i bŵer a chyfleusterau eraill yn digwydd am gyfnodau hir" mewn llefydd yn yr ardal Rhybudd Ambr. 

O ystyried cywirdeb y rhagolygon hyd yma, a faint o eira a tharfu fu mewn rhannau eraill o'r wlad, mae diogelwch disgyblion a staff yn hollbwysig.Felly mae'r awdurdod lleol wedi cynghori pob ysgol i gau yfory, i staff a disgyblion.  

Ond yn nwylo'r Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr mae'r penderfyniad terfynol ar gau ysgol. Felly cynghorir rhieni i gadw llygad allan am negeseuon gan eu hysgolion i gael y wybodaeth ddiweddaraf. 

Er bod y rhybudd ambr yn dod i rym o ganol dydd yfory, y cyngor a gafwyd yw, lle mae eira, y bydd hi'n drwm.Mae'n annhebygol y bydd digon o amser i drefnu at holl anghenion trafnidiaeth disgyblion a staff i gyrraedd adref yn ddiogel os gadewir hi tan amser cinio yfory i wneud penderfyniad. 

Mae'r rhybudd ambr yn parhau hyd ddydd Gwener.Ond, mae pob cyfle y bydd angen i ysgolion fod ar gau bryd hynny hefyd.Bydd y cyngor yn cyhoeddi mwy o gyngor i ysgolion bnawn yfory. 

Cynghorir y cyhoedd i osgoi teithiau diangen.