Back
Cam Dau Project Adfywio Cathays ar fin ddechrau

c. O ganlyniad i'r project bydd trigolion yn gallu manteisio ar gyfleusterau a mannau gwyrddion gwell, wedi'u datblygu gan Gyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru ochr yn ochr â sefydliadau lleol. 

Seilir y dyluniad newydd, sydd wedi'i ariannu gan gyfraniadau datblygwyr Adran 106 ar gyfer mannau agored cyhoeddus, ar adborth o ddigwyddiad ymgynghori a gynhaliwyd yn 2016. Bydd nodweddion yn cynnwys mainc gron newydd, biniau newydd, palmantau a bolardiau i atal pobl rhag parcio ar y glaswellt, ardal flodau gwyllt newydd ac ardal eistedd newydd. 

Yn rhan o gam un y project, gwnaethpwyd gwelliannau i Ruthin Gardens a oedd yn cynnwys mainc gron newydd, palmantau a bolardiau newydd, gwelliannau i'r fynedfa, hysbysfwrdd ac ardaloedd gyda blodau gwyllt i wella'r amgylchedd ac i annog pobl i beidio â pharcio'n anghyfreithlon. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cyng. Peter Bradbury: "Mae'n hollbwysig y gall ein trigolion fwynhau ac ymfalchïo yn eu hamgylchoedd a bwriad project Adfywio Cathays yw gwella ansawdd mannau gwyrddion a all gael effaith gwirioneddol ar gymunedau lleol. Bydd y gwaith sy'n cael ei wneud yn Llanbleddian Gardens yn trawsnewid yr hyn sy'n fan cyhoeddus nad yw'n cael ei ddefnyddio'n aml yn ardal gyffredin ddeniadol i bawb ei defnyddio. 

Yn rhan o'r cynllun, bydd blychau plannu ar gael i grwpiau cymunedol eu mabwysiadu ac i ofalu amdanynt, i wneud cais am un o'r rhain e-bostiwch Emma Robson arlletycaerdydd@caerdydd.gov.uk 

Rydym yn ymdrechu i ddod o hyd i gyllid i ddechrau gwaith gwella cam olaf y project, sef Cogan Gardens.