Back
Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd yn parhau â'r rhaglen wella ar gyfer ‘Gofal yn y Cartref'

Mae argymhelliad i barhau â'r ffordd y mae Cyngor Caerdydd yn prynu Gofal Cartref wedi ei gymeradwyo gan y Cabinet. 

[image]

Er mis Tachwedd 2014, mae'r cyngor wedi defnyddio system sy'n cynnwys darparwyr yn y cartref yn cyflwyno tendrau bychain i ddarparu pecynnau gofal unigol. 

Mae ffigyrau yn yr adroddiad a aeth i'r Cabinet yn dangos bod dros 85 y cant o'r pecynnau gofal newydd yn y 12 mis diwethaf wedi mynd i'r ymgeisydd â'r sgôr safon uchaf, er bod y costau ar gyfer pecynnau gofal wedi cwympo gan 11 y cant. 

Mae'r system a gyflwynodd y Cyngor yn 2014 hefyd wedi atgyfnerthu ac ychwanegu sefydlogrwydd at y farchnad gofal yng Nghaerdydd, gyda nifer y darparwyr yn y ddinas bron â dyblu. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Susan Elsmore: "Mae sut rydyn ni'n gofalu am bobl hŷn yn dweud llawer amdanom ni fel cymdeithas, felly rwy'n falch bod safon y gofal wrth galon y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud ynghylch gofal cartref. 

"Mae sicrhau ein bod yn cynnig gofal o safon a helpu pobl i aros yn annibynnol yn eu cartrefi yn costio tua £23.5 miliwn bob blwyddyn i'r Cyngor, felly mae'n hanfodol ein bod ni'n sicrhau gwerth da am arian cyhoeddus." 

Er bod safon y gwasanaeth wedi gwella, bu cwymp yn y gyfradd fesul awr a delir gan Gyngor Caerdydd am ofal yn y cartref o £17.62 ym mis Rhagfyr 2015 i £15.79 ym mis Tachwedd 2017. 

Ychwanegodd y Cyng Elsmore: "Er y pwysau ariannol yn y sector gofal, rydyn ni wedi gweld gostyngiadau yng nghost gofal ers gweithredu ystod o fesurau integredig i wella safon. 

"Mae'r system a gyflwynon ni yn 2014 wedi chwarae rôl sylweddol yn hyn, ond arweiniad, gwaith tîm ac ymrwymiad staff a rheolwyr sydd wedi ei gwneud yn bosibl." 

Mae'r adroddiad a gymeradwyodd y Cabinet yn argymell creu ‘Rhestr Darparwyr Cymeradwy Deinamig' a fyddai'n dod i rym nid hwyrach na 4 Tachwedd 2018, yn dilyn diwedd y trefniadau cytundebol presennol.