Back
Coleg Chweched Dosbarth yn ystyried dod yn ôl dan reolaeth Cyngor Caerdydd

Mae Coleg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant yn ystyried newid ei statws i ddod yn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir, gan ddiddymu'r Coleg fel 'Sefydliad Addysg Bellach dynodedig.' 

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried adroddiad newydd ar y newid statws yfory, 18 Ionawr, ar ôl i Gorff Llywodraethu'r coleg lunio cynigion i ddod yn ôl dan reolaeth yr awdurdod addysg lleol. Mae'r adroddiad yn argymell y dylai'r Cyngor gefnogi cynigion y coleg, yn amodol ar ddiwydrwydd dyladwy a chymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru. 

Mae Coleg Dewis Sant yn darparu amrywiaeth o gyrsiau ôl-16 i thua 1,500 o ddisgyblion o bob cwr o'r ddinas. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cyng. Sarah Merry: "Mae ysgolion cynradd o bob cwr o Gaerdydd wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion dros y blynyddoedd diwethaf, a bellach mae hyn yn dechrau effeithio ar nifer y disgyblion sy'n dechrau mewn ysgolion uwchradd. Yn naturiol dros amser, bydd y cynnydd hwn mewn galw am leoedd yn cael effaith ar y galw am leoedd yn y Chweched Dosbarth. 

"Bydd dod â Choleg Dewi Sant yn ôl dan reolaeth y Cyngor yn ein helpu ni i wella ein cynllunio strategol ar gyfer addysg disgyblion 16-19 oed yn y ddinas. Byddai hefyd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ni wrth fynd i'r afael â'r galw cynyddol wrth i boblogaeth y ddinas dyfu." 

Mae Coleg Dewi Sant wedi cynnal ymgynghoriad ar y bwriad hwn gyda rhanddeiliaid ar draws y ddinas dros yr ychydig fisoedd diwethaf. 

Mae'r coleg wedi rhannu copïau â'r Cyngor o'r arolwg cyflwr mwyaf diweddar o ystâd y coleg. Mae'r adroddiad yn nodi ôl-groniad o waith atgyweirio gwerth £5.293m, ac mae'r asesiad o'r adeiladau yn pennu eu bod yn dod o dan gategorïau B a C o ran cyflwr - gyda chategori A y radd uchaf. 

Ar ôl hynny, mae'r coleg wedi ariannu gwaith i fynd i'r afael â phroblemau yn ymwneud ag adnewyddu'r to, y cladin allanol a llawr un ystafell ddosbarth. 

Mae Coleg Dewi Sant hefyd wedi cyflenwi copi o'i gynnig unigol am £5.989m o gyllid Llywodraeth Cymru, drwy Fand B rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. 

Os yw'r cynnig am gronfeydd yn llwyddiannus, byddai'r gwaith canlyniadol bron â chlirio'r ôl-groniad o atgyweiriadau sydd wedi'i nodi, gan leihau'n sylweddol unrhyw atebolrwydd a drosglwyddir i'r Cyngor, pe byddai caniatâd yn cael ei roi i newid statws y coleg.