Back
Cyhoeddi cynigion i wella gwasanaeth ar gyfer dysgwyr ag anghenion ychwanegol

Mae wyth prif gynnig er mwyn gwella addysg ar gyfer dysgwyr ag anghenion ychwanegol wedi eu datgelu mewn adroddiad a drafodir yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Caerdydd. 

[image]

Nod y cynigion, a fydd yn mynd i ymgynghoriad, yw gwella canlyniadau ar gyfer dysgwyr ag anghenion arbennig a chynyddu'r galw am leoedd mewn ysgolion arbennig a chanolfannau adnoddau arbenigol yng Nghaerdydd. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cyng. Sarah Merry: "Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi ariannu 103 lle ychwanegol mewn ysgolion arbennig a chanolfannau adnoddau arbenigol yng Nghaerdydd, ond mae tystiolaeth yn awgrymu y bydd nifer y dysgwyr ag anghenion ychwanegol yn parhau i godi. 

"Mae ein hysgolion y brif lif yn rhoi addysg dda i dros 90 y cant o'r plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r cynigion rydym yn eu cyflwyno nawr wedi eu llunio i sicrhau bod gennym strategaeth glir a chydlynol i ateb anghenion arbenigol sydd y tu allan i'r prif lif. I wneud hyn, mae angen i ni sicrhau bod gennym wasanaeth digonol ac o safon dda." 

Mae'r cynigion, a fydd yn weithredol tan 2022 pan ddaw'r buddsoddiad Rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif sydd newydd ei gyhoeddi ar gyfer pedair ysgol arbennig newydd  (dwy ysgol gynradd a dwy uwchradd) yn cynnwys: 

  • Cynyddu capasiti  Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn (o 150 lle i 198 le) trwy sefydlu 3 dosbarth newydd yng Nghanolfan Ieuenctid Trelái wrth gefn yr ysgol; Datblygu Canolfan Ieuenctid a fydd hefyd yn cynnig cyfleusterau chwaraeon ychwanegol, gwell mynediad cymunedol a chyfleoedd i ddatblygu gwasanaethau cydweithio aml-asiantaeth a gwaith allanol ar y safle.

  • Cynyddu ystod oedran  Ysgol The Hollies (o 4 - 11 i 4 - 14) a nifer y lleoedd (o 90 i 138). Crëid lle ychwanegol ar gyfer dosbarthiadau trwy adnewyddu'r rhannau a fydd yn wag pan aiff  Ysgol Glan Morfa, Sblot at ei hadeilad newydd ym mis Awst 2018. www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w/15792.html Yna byddai'r ddarpariaeth ehangach yn Ysgol The Hollies wedi ei rhannu rhwng y safle newydd a'r adeiladau ym Mhentwyn.

  • Estyn ystod oedran  Ysgol Greenhill (o 11 - 16 i 11 - 19) a chynyddu capasiti'r ysgol i 64 lle. Byddai'r ystod oedran newydd yn paratoi ar gyfer darpariaeth ôl-16 a fydd yn yr ysgol newydd fel rhan o raglen Band B.

  • Ehangu ffocws  Ysgol Meadowbank, nad yw'n llawn ar hyn o bryd, o ddarparu ar gyfer dysgwyr ‘â nam ieithyddol penodol' i gynnwys dysgwyr ag 'anghenion llefaredd, iaith a chyfathrebuacanableddau dysgu cymhleth'.

  • Cael gwared yn raddol ar y ganolfan adnoddau arbenigol yn  Ysgol Allensbank  erbyn mis Gorffennaf 2020 ac agor 8 lle mewn dosbarth ymyrraeth gynnar ym mis Medi 2019 ar gyfer plant ag anghenion llefaredd ac iaith.

  • Agor canolfan adnoddau arbenigol ar gyfer hyd at 20 o blant ag anableddau dysgu cymhleth yn  Ysgol Gynradd y Forwyn Fair.  Byddai'r ddarpariaeth yn rhan o'r cynlluniau i ailadeiladu'r ysgol dan fuddsoddiadau Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif a byddai'n golygu y gallai disgyblion sy'n byw yn ne canol Caerdydd dderbyn gwasanaeth arbenigol yn nes at y cartref.

  • Agor canolfan adnoddau arbenigol ynYsgol Pwll Coch  i gynnig 10 lle cyfrwng Cymraeg ar gyfer dysgwyr ag anableddau dysgu cymhleth a chyflyrau ar y sbectrwm awtistig. Byddai cwmpas i estyn y ddarpariaeth hon i 20 lle wrth i'r galw gynyddu.

  • Agor canolfan adnoddau arbenigol yn  Ysgol Glantaf  i gynnig 30 lle cyfrwng Cymraeg ar gyfer dysgwyr ag anableddau dysgu cymhleth a chyflyrau ar y sbectrwm awtistig.

Mae disgwyl y bydd cost gyfalafol y cynigion tua £6 miliwn. 

Aeth y Cyng. Merry ymlaen i ddweud: "Bydd peidio â buddsoddi yn ein darpariaeth ein hunain yn arwain ar ddibynnu ar ddarparwyr ysgolion arbennig annibynnol, a byddai hynny'n golygu costau uwch, heb warantu y byddai digon o leoedd, felly byddai'n cynigion hyn yn fuddsoddiad gwerth chweil. Yn arbennig wrth ystyried y buddiannau sylweddol a ddaw: addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg o safon uchel ar gyfer dysgwyr ag anghenion ychwanegol, dyfodol cynaliadwy ar gyfer Ysgol Meadowbank, cyfleoedd ôl-16 gwell ar gyfer pobl ifanc ag anghenion emosiynol a lles dwys a rhagor o gapasiti i ymyrryd yn gynnar i gynorthwyo plant ag anghenion llefaredd ac iaith."