Back
Caerdydd yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer broject buddsoddi gwerth £180 miliwn

Mae Cyngor Caerdydd wedi sicrhau cefnogaeth gan ei bartneriaid yn y Fargen Ddinesig er mwyn helpu i gyflwyno project buddsoddi £180 miliwn a allai greu mwy na 30,000 o swyddi yng nghanol y ddinas yn y 10 i 15 mlynedd nesaf. 

[image]

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cytuno mewn egwyddor i roi £40m tuag at sicrhau arian cyfatebol a gaiff ei ddefnyddio i ddarparu Cyfnewidfa Drafnidiaeth Ganolog newydd ar ganol Parth Cyflogaeth Craidd yng nghanol y ddinas. 

Bydd y gyfnewidfa newydd yn sicrhau bod gan drigolion trwy Brifddinas-Ranbarth Caerdydd fynediad i drafnidiaeth gyhoeddus sy'n addas at y diben i fynd i'r swyddi newydd a gaiff eu creu yn y ddinas. 

[image]

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cyng. Huw Thomas, a ddaeth â'r adroddiad gerbron cyfarfod Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i'w gymeradwyo: "Mae hwn yn gam ymlaen sylweddol ar gyfer y Fargen Ddinesig a'n cynlluniau i greu 30,000 o swyddi newydd yn y ddinas. 

"Mae angen taer a brys i sicrhau y gall Caerdydd Canolog gynnal twf a ragfynegir yn niferoedd y teithwyr, yn enwedig o ystyried y rôl y bydd y Metro yn ei chymryd o ran lledaenu buddion y Fargen Ddinesig. Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn sicrhau y gall Cymru gystadlu fel lleoliad a sicrhau buddsoddi symudol. Mae'r datblygiad hwn yn gam hanfodol tuag at greu hyb busnes cyntaf Cymru sy'n wirioneddol ryngwladol-gystadleuol, o gwmpas prif gyfnewidfa drafnidiaeth y genedl ac a fydd yn creu swyddi ar gyfer y rhanbarth cyfan. 

"Dros y blynyddoedd diwethaf mae twf swyddi yng Nghymru wedi trechu pob un o Ddinasoedd Craidd eraill y DU. Ni sy'n gyrru economi'r rhanbarth. Mae busnesau eisiau ymsefydlu yng Nghaerdydd, rydym yn cynnig safon ac ansawdd bywyd sydd heb ei ail yn unman yn y DU. Ond, os ydym ni am gynnal y safon honno a pharhau i annog busnesau i sefydlu yma, mae angen i ni sicrhau bod ein cynnig trafnidiaeth gyhoeddus yn addas at y diben. Ar hyn o bryd, mae 90,000 o bobl yn cymudo i Gaerdydd ar gyfer y gwaith - y rhan fwyaf ohonynt mewn ceir. Os ydyn ni eisiau i'r ddinas gael dyfodol gwych, un sydd o fudd i bobl ar draws y rhanbarth, mae angen i ni sicrhau bod ein cynnig trafnidiaeth gyhoeddus yn iawn. Bydd y gefnogaeth hon gan ein partneriaid yn y Fargen Ddinesig yn cael rhywfaint o effaith o ran ein galluogi i wneud hynny." 

Bydd yr arian yn mynd tuag at Gam Dau Project Canolog Metro a chaiff ei ddefnyddio i helpu i sicrhau arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru, y Sector Preifat a Llywodraeth y DU. 

Mae Cam Un Project Canolog Metro - sef adeiladu gorsaf fysus newydd - ar y gweill eisoes. Mae Cam Dau'r Project, y disgwylir y bydd yn costio rhwng £160 miliwn a chant £180 miliwn, yn cynnwys:

  • Moderneiddio Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog

  • Gorsaf fysys newydd ar ochr ddeheuol yr orsaf drenau

  • Hyb beiciau a

  • Gwelliannau i'r ardal gyhoeddus.

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: "Mae Cam Un Project Canolog Metro - sef adeiladu gorsaf fysus newydd - ar y gweill eisoes. Bydd yr hwb ariannol newydd hwn o £40 miliwn a fydd yn ein galluogi i ddechrau cam dau sef moderneiddio Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog. 

"Rydym yn gweithio ar gynllun a allai sicrhau y daw 30,000 o swyddi eraill i'r brifddinas a leolir o amgylch yr Orsaf Ganolog neu'n agos iddi. Er mwyn i'n cynllun lwyddo mae angen i ni wella gallu'r Gyfnewidfa Ganolog i dderbyn nifer y bobl a fydd yn teithio i ganol y ddinas i gymryd y swyddi hynny. P'un ai a ydynt yn dod ar y bws, ar y trên, yn beicio, yn cerdded neu'n dod mewn car mae angen i ni sicrhau bod y seilwaith yn iawn." 

Cytunodd cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn cyfarfod yn Nantgarw ddydd Llun, 15 Ionawr, yn unfrydol i ddyrannu'r arian mewn egwyddor o Gronfa Buddsoddi'r Fargen Ddinesig tuag at y project er mwyn helpu wrth sicrhau arian cyfatebol gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, a'r sector preifat ac yn y pen draw i helpu i gyflawni'r project.Mae'r penderfyniad mewn egwyddor yn amodol i waith diwydrwydd dyladwy yn cael ei wneud ar y project, a sicrhau cyllid gan Lywodraethau Cymru a'r DU. 

Dywedodd y Cyng. Andrew Morgan o'r Cabinet P-RC, ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: "Rwyf i a'm cyd-arweinyddion ar ben ein digon yn gallu cynnig cefnogaeth y Fargen Ddinesig i'r project trawsffurfiol hwn. Mae unrhyw un sy'n teithio i mewn i Gaerdydd a thrwyddi yn ymwybodol iawn o'r angen taer am welliannau i'r seilwaith trafnidiaeth, ac mae twf cyflym y brifddinas a ragwelir yn golygu bod y project hwn yn hollol hanfodol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig pwysleisio y bydd y project o fudd i bob ardal yn y rhanbarth, ac yn wir i weddill Cymru. Mae'r datblygiad hwn yn rhag-amod er mwyn darparu'r Metro yn llwyddiannus, a bydd yn gweithredu fel galluogwr pwysig ar gyfer y datblygiad gerllaw, gan gynnwys creu mwy na 30,000 o swyddi." 

Rwy'n meddwl ei bod hefyd yn bwysig pwysleisio mai project yw hwn a fydd o fudd i'r rhanbarth cyfan, yn enwedig os ydym am weld cyflwyno gwasanaeth 15 munud newydd rhwng prif linellau'r Cymoedd a Chaerdydd o dan gynlluniau Metro De Cymru."