Back
Craffu Projectau Digideiddio

Bydd y ffordd y mae ystod o wasanaethau Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau'r Ddinas y Cyngor yn cael eu gwella drwy ddefnyddio technolegau modern yn cael ei adolygu gan y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol yfory (16 Ionawr, 2018). 

Nodwyd ymrwymiad i gynnig ystod eang o wasanaethau ar lwyfannau digidol yn yr adroddiad "Cyflawni Uchelgais Prifddinas" aeth gerbron y Cabinet fis diwethaf. Bydd y gwaith craffu hwn yn adolygu ystod o wasanaethau a gaiff eu rheoli gan Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau'r Ddinas y Cyngor. 

Gwnaeth yr adroddiad "Cyflawni Uchelgais Prifddinas" amlygu sut roedd technoleg yn trawsffurfio gwasanaethau cyhoeddus lleol gan egluro bod awdurdodau lleol yn fwy nac erioed yn ceisio: 

  • Awtomeiddio prosesau;

  • Symud trafodion cwsmeriaid a gwasanaethau i sianeli cyfathrebu ar-lein;

  • Mudo systemau'r cyngor i ddatrysiadau'n seiliedig ar ddull a rennir 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol, y Cynghorydd Ramesh Patel: "Mae Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau'r Ddinas Cyngor Caerdydd wedi datblygu ystod o brojectau digideiddio yn rhan o ddull ‘Digidol yn Gyntaf'. Mae'r rhain yn cynnwys App parcio unigryw newydd, system talu am barcio ar-lein a Synwyryddion Clyfar mewn dros 3000 o leoedd parcio ledled y ddinas. Bydd fy mhwyllgor yn asesu effaith y projectau hyn mewn perthynas â gwell darpariaeth gwasanaeth i breswylwyr ac hefyd yn cael clywed am y gwaith arloesol sydd dal i fod ar y cam datblygu." 

Mae cyfarfod yfory am 4.30pm a bydd yn cael ei ddarlledu'n fyw yma:https://cardiff.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/328307