Back
Datganiad Cyngor Caerdydd: Ysgol Gynradd Windsor Clive

Cafwyd llawer o sylw yn y cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon am Ysgol Gynradd Windsor Clive. 

Yn dilyn perfformiad gan yr ysgol siaradodd y Pennaeth â'r plant, yn rhoi adborth ar eu perfformiad. Siaradodd hefyd wrthynt am rai agweddau ar eu hymddygiad. 

Mae'r hyn a ddywedwyd, a'r ffordd y'i dywedwyd, wedi cael ei gamddehongli gan nifer fach o rieni nad oeddent yn bresennol. Mae rhai ohonynt wedi gwneud sylwadau bygythiol ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Cred Cyngor Caerdydd fod hyn yn annerbyniol. Mae staff a llywodraethwyr yr ysgol wedi rhoi diogelwch a lles disgyblion wrth wraidd eu pryderon. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cyng. Sarah Merry: "Gwerthfawrogwn waith ein holl benaethiaid a'u staff wrth hyrwyddo lles a datblygiad ein plant a phobl ifanc. 

"Wrth wneud hyn, mae'n bwysig bod gan ein hysgolion gefnogaeth y gymuned a'r rhieni y maen nhw'n eu gwasanaethu. Mae ysgol lwyddiannus yn dibynnu ar bawb yn cydweithio, gyda buddiannau'r plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth."