Mae digwyddiad arbennig wedi'i gynnal i gydnabod gweithwyr gofal sydd wedi dangos rhagoriaeth.
Roedd y gwobrau, a gynhaliwyd gan y noddwyr, Coleg Caerdydd a'r Fro, yng Nghampws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, ac a gyflwynwyd gan Behnaz Akhgar, cyflwynydd BBC Cymru Wales, hefyd yn dathlu gofalwyr sydd wedi cwblhau eu cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn llwyddiannus.
Yn siarad yn y digwyddiad ar ran Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg, dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles: "Braint ac anrhydedd yw cael bod yng ngwobrau cyntaf Partneriaeth Gweithlu Gofal a Chymorth Ranbarthol Caerdydd a'r Fro. Hoffwn gymeradwyo ein holl ofalwyr am eu gwaith caled, ymrwymiad ac ymroddiad. Yn syml, ni allem ymdopi hebddynt - ni all ein cynghorau wneud y gwaith hyn ar ein pen ein hunain; mae'n hanfodol ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â'r gweithlu gofal cymdeithasol ehangach.
"Mae'r bartneriaeth hon rhwng Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn un ddiffuant a grymus, ac rydym yn cefnogi ac yn cydnabod gwaith amhrisiadwy gofalwyr a'u ffocws ar wella lles personol a chynnig y gofal sydd ei angen ar bobl.
"Mawr obeithiaf fod y digwyddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i'r sector. Yn wir, rydym am i hwn fod yn gam pellach ar y daith i wella statws gweithwyr gofal cymdeithasol, yn ogystal â denu aelodau newydd i mewn i'r sector."
Yn dilyn tamaid i'w fwyta ac yfed, gwnaeth Kay Martin, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, a'r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, Bob Derbyshire, groesawu'r gwesteion yn ffurfiol i'r noson wobrwyo, ac ar ôl hynny dywedodd Ei Theilyngdod y Faeres Janice Charles o Fro Morgannwg ychydig eiriau cyn i'r gwobrau eu hunain ddechrau.
Mewn fideo a ddangoswyd ar y noson, soniodd Holly, rheolwr cangen gofal cartref sy'n 28 oed, am sut y dechreuodd weithio fel gofalwr: "Dechreuais ofalu yn 2010. Digwyddodd bopeth ar hap a damwain a dweud y gwir - do'n i ddim yn edrych am rôl o'r fath ar y pryd. Ro'n i'n 20 oed ac yn gweithio y tu ôl i'r til mewn archfarchnad yn rhan amser, ac yn gofalu am fy mam ar yr un pryd.
"Daeth gŵr at fy nhil. Roedd wrth ei fodd, yn sionc, yn chwibanu; gallech chi weld ei fod yn mwynhau ei ddydd. A minnau'n ferch 20 oed fusneslyd, gofynnes i pam ei fod e mor hapus, ac fe ddywedodd e wrtha i ei fod e'n caru ei waith a bod ganddo lawer i wenu amdano. Gofynnes i beth oedd ei swydd, ac fe ddywedodd e ei fod yn ofalwr.
"Ro'n i'n ddigon naïf ar y pryd; do'n i ddim yn gwybod beth oedd gofalwr a dweud y gwir. Ro'n i wedi clywed am gartrefi gofal, ond do'n i ddim yn gwybod beth oedd gofal cartref. Esboniodd y gŵr wrtha i fod y swydd yn cynnwys unrhyw beth o ofal personol i siopa, cymorth domestig ac ati, ac roedd wrth ei fodd - yn wên o glust i glust.
"Dwi'n cofio meddwl, ‘wel, dwi'n gwneud hyn yn barod ta beth, oherwydd dwi'n edrych ar ôl fy mam, felly efallai y gallen i wneud hyn'. Dwi'n cofio gofyn iddo pa gymwysterau oedd eu hangen arna i. Fe ddywedodd nad oedd angen rhai ac mai dyna un o'r manteision o fod yn ofalwr. Fe ddywedodd eu bod nhw'n eich cofrestru ar gyfer cymwysterau, yn talu am eich cymwysterau, yn eich helpu gyda phopeth, yn eich cefnogi, yn eich mentora, yn gwneud yn siŵr eich bod chi'n cael yr holl gymwysterau angenrheidiol.
"Felly fe ofynnes i a oedd yna unrhyw swyddi gwag, ac fe ddywedodd fod yna rai. Ffoniais i'r dyn nes 'mlaen ac fe ges i gyfweliad o fewn 48 awr. Parodd y cyfweliad tua 4 awr. Fe siarades i fel melin bupur, allwn i ddim stopio gofyn cwestiynau. Ro'n nhw wedi dal fy niddordeb; ro'n i wedi fy syfrdanu fod pobl yn cynnig gofal yn 18 oed i atal pobl rhag gorfod mynd i gartref gofal.
"Agorwyd fy llygaid y diwrnod hwnnw, ac ro'n i'n gwybod mai dyma'r swydd i mi. Pan ges i gynnig y swydd do'n i ddim yn gwybod beth i wneud. Ro'n i ar ben fy nigon, yn eithriadol o hapus. Yna fe ddechreuais i weithio fel gofalwr. Ro'n i'n gweithio rhai shifftiau hir, rhai shifftiau byr, ond ro'n i'n joio mas draw.
"Ar adegau roedd y straen yn eithaf trwm. Ry'ch chi'n meithrin perthynas agos â defnyddwyr y gwasanaeth - ar ddiwrnodau pan nad ydynt yn teimlo'n dda, mae hynny wir yn effeithio arnoch chi. Ond ro'n i'n codi am 6:30 bob bore yn gwenu fel giât."