Back
Caerdydd yn dod yn 'Ddinas Gerdd’
Bydd Caerdydd yn cael ei chyhoeddi’n 'Ddinas Gerdd' yn swyddogol yn ddiweddarach heddiw, gan roi cerddoriaeth wrth galon dyfodol y ddinas. 

Bydd y ddinas yna’n dechrau cydweithio ag arweinwyr rhyngwladol yr ymgyrch Dinasoedd Cerdd - Sound Diplomacy ar ddatblygu strategaeth gerdd newydd fydd yn gwarchod bywyd cerddorol Caerdydd ac yn hybu delwedd ryngwladol y ddinas. 

Bydd Caerdydd yn arwain y ffordd yn sgil y strategaeth hon, gan ddod yn un o’r dinasoedd cyntaf i asesu'r ffyrdd y gall cerddoriaeth helpu i greu'r math o ddinas y mae pobl am fyw ynddi.

Yn sgil eu gwaith llwyddiannus mewn dinasoedd fel Barcelona, Berlin, San Francisco a Llundain, bydd Sound Diplomacy yn gweithio gyda’r sector cerddoriaeth cyfan – o gerddorion, pobl sy’n hybu ac yn cynllunio, i bobl sy’n rhedeg lleoliadau, awdurdodau trwyddedau ac addysgwyr – i asesu gwerth cerddoriaeth a’r ecoleg sy’n ei gefnogi i Gaerdydd.

Y nod yw datblygu polisïau sy’n edrych ar gerddoriaeth fel seilwaith, ac a fydd yn cynnig ecosystem gerddorol iach, a fydd yn ei dro yn creu cymunedau bywiog a chyffrous gan adeiladu proffil rhyngwladol ac yn cynyddu gwerth cerddoriaeth yn y ddinas.

Cyn i’r gwaith ddechrau, gwahoddir pobl sy’n hoff o’u cerddoriaeth i noson o ddathlu ar Stryd Womanby o 6.45pm ymlaen i glywed areithiau gan wleidyddion lleol a chefnogwyr Ymgyrch Achub Stryd Womanby, cyn mwynhau’r gigs am ddim yn rhai o'r lleoliadau ar y stryd.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng Huw Thomas, a fydd yn siarad yn y digwyddiad:  “Rydym i gyd yn gwybod bod Cymru'n Wlad y Gân, ac fel prifddinas Cymru, rwy'n credu bod gan Gaerdydd ran enfawr i'w chwarae wrth ddathlu a hybu hyn.Mae cerddoriaeth yn rym hynod o ddaionus yn ein bywyd bob dydd, ond yn fwy na hyn, mae gan gerddoriaeth y gallu i ddiffinio dinasoedd, yn arbennig rhai fel Caerdydd sy’n cynnig diwylliant mor unigryw. 

“Dyna pam bod y cyhoeddiad hwn yn newyddion mor wych, nid yn unig i gerddorion a'r rhai sy'n mynd i gyngherddau, ond i bawb sydd am weld Caerdydd yn datblygu ei phroffil rhyngwladol, gwneud y mwyaf o’i photensial a dod yn brifddinas ryngwladol o fri.”

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Sound Diplomacy, Shain Shapiro: “Mae’n anrhydedd ac yn gyfrifoldeb i weithio gyda Chyngor Caerdydd i fesur ac asesu’r seilwaith cerddorol ledled y ddinas. Mae’r cyngor wedi dangos drwy ei ymdrechion yn Stryd Womanby, a’r ffordd y mae’n ymgysylltu fwyfwy â cherddoriaeth, ei fod yn sylweddoli bod cerddoriaeth o fudd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol i dwf y ddinas.  Rydym o ddifri ynglŷn â hyn, a byddwn yn gweithio i ddatblygu polisi cerdd y bydd cerddorion, busnesau a thrigolion yn gallu elwa ohono ac yn falch ohono.

“Os cysylltwn gerddoriaeth â’r bywyd dinesig - gan ddysgu pa mor gymhleth yw'n dinasoedd a sut y maen nhw'n gweithio - mae'n taflu goleuni unigryw ar y math o ddinasoedd yr ydym yn eu deisyfu, o’i gymharu â’r dinasoedd yr ydym yn eu creu yn aml.

“Mae cerddoriaeth wedi’i brofi yn arf sy'n mynd i'r afael ag eithrio cymdeithasol ac unigrwydd.Os yw’n cael ei ddysgu gyda’r un sêl â mathemateg a’r gwyddorau, mae'n gwella dirnadaeth ac empathi. Mae’n gwneud i bobl deimlo'n ddiogel, er enghraifft pan mae cerddoriaeth glasurol yn cael ei chwarae mewn gorsafoedd wrth i bobl deithio yn ystod oriau brig. Mae’n rhoi bywyd newydd i ardaloedd cyhoeddus a sgwariau.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas:  “Mae Cymru wedi cael ei nabod fel Gwlad y Gân erioed, felly mae ond yn iawn bod cerddoriaeth wrth galon ei phrifddinas".   Mae gan Gaerdydd dreftadaeth gerddorol gyfoethog iawn. Yr oll sydd raid i chi wneud yw ymweld â’r ddinas yn ystod Gŵyl Sŵn, treulio noson allan ar Stryd Womanby, neu yn Neuadd Dewi Sant yng nghwmni Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, i wybod bod ganddi hefyd ddyfodol cerddorol cyffrous iawn. 

“Bydd ein gwaith gyda Sound Diplomacy yn mynd â ni gryn ffordd tuag at warchod dyfodol cerddoriaeth yng Nghaerdydd, ond hefyd fe aiff â ni ymhellach, gan adeiladu ar gryfder hanes cerddorol y ddinas, a'i dyfodol, i helpu i yrru adfywiad, cryfhau cymunedau a gwella’r economi.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury:  “Mae cerddoriaeth yn gallu hybu cydlyniant cymdeithasol, gwella llesiant, ac i rai, mae’n gallu cynnig llwybr allan o dlodi.  Felly ein nod yw creu amgylchedd lle mae'n hawdd i fandiau gymryd rhan, creu cerddoriaeth newydd ac adeiladu eu cynulleidfaoedd. Mae Caerdydd eisoes yn ddinas hynod greadigol, a bydd gweithio gyda Sound Diplomacy yn ein cynorthwyo i greu’r amodau lle gall y creadigrwydd hwnnw flodeuo.”

Gan siarad ar ran yr Ymgyrch i Achub Stryd Womanby, dywedodd Alex Owen:  “Bydd 14 Rhagfyr yn ddiwrnod i’w gofio. Ar ôl misoedd o ymgyrchu, mae’n wych i weld breuddwydion dinas yn dod yn wir. ‘Dyn ni methu aros i weithio gyda Chyngor Caerdydd a Sound Diplomacy, arloeswyr dinasoedd cerdd, i warchod a chefnogi ein cerddoriaeth fel y gall ffynnu.Mae’r cynlluniau uchelgeisiol sydd wedi’u hamlinellu yn golygu mwy na gwarchod cerddoriaeth fyw yn unig, ond ei chynllunio a’i helpu i ffynnu am ddegawdau i ddod. 
 
“Nid y diwedd yw hyn – mae’n arwydd o ddechrau newydd i wneud Caerdydd y lle gorau ym Mhrydain i ddatblygu cerddoriaeth ynddi.  Ar y 14eg byddwn yn dathlu’r llwyddiannau, y partneriaethau a grym ein cymuned ar Stryd Womanby ymhob lleoliad. Rydym yn gwahodd unrhyw un sy’n caru cerddoriaeth i ymuno â ni i ddathlu ac i ddangos i’r byd bod Caerdydd o ddifri o ran cerddoriaeth. Mae’n amser cyffrous.”
 
Llun gan:  Polly Thomas