Back
Trafod democratiaeth leol wrth i bobl ifanc ddod i Siambr y Cyngor

Daeth myfyrwyr o ddwy o ysgolion uwchradd Caerdydd i Siambr Cyngor Neuadd Y Sir heddiw, dydd Gwener 17 Tachwedd, i gwrdd â gwleidyddion lleol fel rhan o Wythnos Seneddol y DU. 

[image]

Roedd yn gyfle i'r bobl ifanc o Ysgol Uwchradd Cathays ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant siarad ag ASau o Gaerdydd, i ddysgu am eu rôl yn Senedd y DU a gofyn cwestiynau am ddemocratiaeth leol. 

Gan siarad yn y digwyddiad, dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol dros ymgysylltu democrataidd, y Cyng. Chris Weaver: "Un o flaenoriaethau'r cyngor yw sicrhau bod pobl ifanc yng Nghaerdydd yn teimlo eu bod yn rhan o'r broses ddemocrataidd, yn lleol ac yn genedlaethol. 

"Mae digwyddiadau fel hwn yn gyfraniad pwysig at hynny. Roedd yn wych clywed y myfyrwyr o Cathays a Teilo Sant yn gofyn cwestiynau rhagorol. 

"Mae democratiaeth mor bwysig, ac mae gwleidyddion lleol - Cynghorwyr, ACau, ASau ac ASEau - yn adlewyrchu barn y cymunedau lleol y maen nhw'n eu cynrychioli. 

"Rhaid i ni annog pawb i arfer eu hawl ddemocrataidd i bleidleisio, fel y gall eu llais gael ei glywed ym mhob lefel o lywodraeth. 

"Mae gweld y genhedlaeth nesaf yn cymryd y fath ddiddordeb yng nghyfarfod heddiw yn dangos yn glir bod dyfodol cynhwysiant democrataidd yng Nghaerdydd mewn dwylo da iawn." 

Trefnwyd y cyfarfod gan Gynorthwy-ydd y Cabinet dros Wasanaethau Ieuenctid, y Cyng. Ashley Lister, a Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cyng. Sarah Merry. 

Gwahoddwyd Anna McMorrin, AS Gogledd Caerdydd, a Jo Stevens, yr AS dros Ganol Caerdydd, i gwrdd â'r plant a phobl ifanc. 

Hefyd yn bresennol roedd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer, Bob Derbyshire, a gadeiriodd y cyfarfod, a'r Cynorthwy-ydd Cabinet dros Gynnwys Dinasyddion, y Cyng. Dilwar Ali. 

Rhwng 13 ac 17 Tachwedd eleni, pwrpas Wythnos Seneddol y DU yw cynnwys pobl o bob rhan o'r DU â'r Senedd yn San Steffan, gan ystyried beth mae'n ei olygu iddynt ac yn rhoi cyfle iddynt gyfrannu.