Mae disgwyl i Bwyllgor Craffu Amgylcheddol Caerdydd dderbyn eitem dan y pennawd Grangetown Werddach - Diweddariad i Aelodau yn ei gyfarfod ar ddydd Mawrth 7 Tachwedd. Yn y cyfarfod fe fydd cyfle i Gynghorwyr sydd yn cefnogi'r Pwyllgor i asesu'r cynnydd a wnaed ar y cynllun hyd yma, ystyried y gwersi a ddysgwyd a nodi unrhyw gyfleoedd pellach yn y dyfodol i Gaerdydd sydd yn codi o'r cynllun.
Eglurodd llefarydd ar ran y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol fod:
"Grangetown Werddach yn gynllun gwelliant amgylcheddol sy'n unigryw i Gaerdydd. Wrth ddatblygu project o'r fath mae'r Cyngor yn gweithredu ar flaen y gad parthed peirianneg draeniau cynaliadwy tra ar yr un pryd yn sefydlu trefniadau gweithio partneriaeth gwerthfawr gyda Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Swyddogaeth y Pwyllgor hwn yw asesu cynnydd y project, deall y gwersi a ddysgwyd ac i ystyried cyfleoedd y dyfodol yng Nghaerdydd yn sgil y project arloesol hwn."
Caiff yr eitem ar ‘Grangetown Werddach' ei derbyn gan Bwyllgor Craffu Amgylcheddol Caerdydd am 4.40pm ar Ddydd Mawrth 7 Tachwedd. Lleoliad y cyfarfod hwn fydd Ystafell Bwyllgor 4 yn Neuadd y Sir ac mae croeso i aelodau'r cyhoedd fynychu. Fel arall, gall aelodau'r cyhoedd weld y cyfarfod drwy gyfrwng gwe ddarllediad byw y gellir ei weld drwy ymweld â:
http://www.cardiff.public-i.tv/site/mg_bounce.php?mg_m_id=3131.
Am fanylion llawn ar yr agenda ac i weld y papurau ar gyfer y cyfarfod ewch i:
http://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=143&MId=3123&LLL=0