Back
Rheolaeth yn y dyfodol ar goed Caerdydd yn mynd ger bron y Pwyllgor Craffu

Mae'r Cyngor yn ddiweddar wedi comisiynu ymgynghorydd allanol i adolygu ei Bolisi Rheoli Coed a bydd gan Gynghorwyr ar Bwyllgor Craffu Amgylcheddol Cyngor Caerdydd gyfle i adolygu'r canfyddiadau yma ac i wneud argymhellion ar sut y rheolir risgiau posibl.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol, y Cynghorydd Ramesh Patel: "Un o'r prif feysydd y byddwn yn edrych arno fydd yr ystyriaethau rheoli risg sydd ynghlwm â chynnal a chadw coed. Oherwydd ei bod yn bwysig cofio y gall peidio â rheoli ein coed yn gywir greu problemau diogelwch cyhoeddus, sydd yn eu tro yn gallu arwain at achosion atebolrwydd yn erbyn y Cyngor os, er enghraifft, oes cangen yn syrthio a pheri anaf neu ddifrod ac y profir y bu esgeulustod. Bydd rhaglen archwilio a chynnal a chadw trylwyr fel rhan o bolisi rheoli coed y Cyngor yn helpu i warchod rhag camau o'r fath."

Bydd yr eitem ar reoli coed yn cael ei dderbyn gan y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol am 5:25pm ar ddydd Mawrth 7 Tachwedd. Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Ystafell Bwyllgor 4 yn Neuadd y Sir, ac mae croeso i aelodau'r cyhoedd fynychu. Caiff y cyfarfod hefyd ei ddarlledu ar ddarllediad gwe byw y bydd modd ei weld yma:https://cardiff.public-i.tv/core/portal/home

I gael manylion am agenda'r cyfarfod llawn ac i weld papurau'r cyfarfod, ewch i:http://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=143&MId=3131&Ver=4