Mae'r digwyddiad yn rhan o ddiwrnodMeddiannuPlant mewn Amgueddfeydd, menter pobl ifanc trwy'r DU sy'n rhoi gyfle iddyn nhw i gymryd rolau gwerthfawr yn eu hamgueddfeydd lleol.
Yn lle staff arferol yr amgueddfa, bydd y criw o blant 13 a 14 oed yn cyflawni rolau tywyswyr a sesiynau trafod gwrthrychau. Bydd y teithiau tywys unigryw i ymwelwyr yn datgloi'r drysau i Adeilad yr Hen Lyfrgell sy'n adeilad rhestredig Gradd II gan ddatgelu ei gyfrinachau cudd, sy'n cynnwys grisiau troellog at ffenestr wydr liwiau loyw.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r fenter yn rhoi cyfle i bobl ifanc leol i ddysgu am hanes a diwylliant Caerdydd a chael profiad uniongyrchol o'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud yn yr amgueddfa.
"Mae'n dilyn llwyddiant project Drysau Agored pan agorodd nifer o leoliadau diwylliannol yn y DU eu drysau i adael i bobl ddod y tu ôl i'r llen. Dyma un o'r llawer o fentrau y mae Stori Caerdydd yn rhan ohonynt i wneud pobl yn rhan o bethau, er mwyn ennyn eu diddordeb ac er mwyn gwneud yr amgueddfa'n lle perthnasol i gymunedau ledled y ddinas."
Dywedodd Rheolwr Amgueddfa Stori Caerdydd, Victoria Rogers: "Mae Amgueddfa Stori Caerdydd yn sefydliad arweiniol yn y rhaglen y mae Llywodraeth Cymru'n ei ariannu, Cyfuno, sy'n mynd i'r afael â thlodi trwy gyfrwng diwylliant. Mae'r amgueddfa'n edrych ymlaen yn arw at weithio gydag Ysgol Uwchradd Fitzalan ar y project hwn.
"Mae rhaglen Cyfuno yn hyrwyddo mynediad at ddysgu ac mae'r diwrnod ‘meddiannu' yn ddiwrnod o hwyl i'r disgyblion ddysgu sgiliau newydd am sut y mae eu hamgueddfa leol yn adrodd hanes eu dinas."
Bydd y teithiau tywys yn digwydd am 12.45pm ac am 1.45pm. I gadw lle, ewch i
neu cysylltwch â'r amgueddfa trwy:storicaerdydd@caerdydd.gov.uk/ 029 2034 6214