Bydd diwrnod lansio a hwyl i'r gymuned yn digwydd yn Hyb Powerhouse ddydd Llun 6 Tachwedd i nodi agoriad swyddogol y cyfleuster, sydd wedi ei estyn a'i adnewyddu'n sylweddol.
Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim yn yr hyb (o 2pm tan 5pm) yn cynnwys cerddoriaeth fyw gan Ministry of Life, stondinau cymunedol, perfformiadau gan ysgolion lleol, paentio wynebau, amser stori, cornel anifeiliaid gan Ian Williams Ltd, Sioe Swigod Symleiddio Gwyddoniaeth dan nawdd Comisiynydd Heddlu a Throseddu de Cymru, stondinau bwyd, gweithdai Gŵyl y Gaeaf a llawer mwy.
Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae ein dathliadau i nodi agoriadau swyddogol bob tro yn ddigwyddiadau gwych sy'n boblogaidd iawn ac yn dod â'r gymuned ynghyd.
"Bydd lansiad swyddogol Hyb Powerhouse yn gyfle gwych i arddangos yr ystod eang o wasanaethau'r cyngor a'i bartneriaid sydd ar gael yno."
Mae'r Hyb Powerhouse newydd yn cynnwys ystod eang o wasanaethau a chyfleusterau yn cynnwys gwasanaeth llyfrgell, ystafell hyfforddi TG, ystafelloedd cyfweld preifat, ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau cymunedol, caffi cymunedol a neuadd gymunedol.
Bydd cwsmeriaid hefyd yn gallu derbyn gwasanaethau tai, budd-daliadau a chyngor, defnyddio'r rhyngrwyd a Wi-Fi am ddim, defnyddio ffonau am ddim i gysylltu â'r Cyngor a gwasanaethau eraill a chyngor a chyrsiau hyfforddi i Mewn i Waith.
Mae gwasanaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned y Cyngor hefyd yn cynnig cyfleoedd dysgu i oedolion yn yr hyb ac mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yn darparu amrywiaeth o weithgareddau i bobl ifanc yn yr ardal.
Mae Heddlu De Cymru wedi symud o'u gorsaf leol yng Nghanolfan Maelfa i Hyb Powerhouse a bydd ganddynt swyddfeydd annibynnol ar y llawr cyntaf.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael: "Mae'r hyb yn gyfleuster y gall y gymuned leol fod yn falch iawn ohono, mae'n ganlyniad i waith partneriaeth ardderchog a gweledigaeth ac mae'n batrwm ar gyfer projectau'r dyfodol.
"Yn wir, mae bod yn yr adeilad yn rhoi troedle cadarn i'r heddlu yng nghanol y gymuned yn ystod cyfnod cyffrous iawn i bawb yn Llanedern a'r cyffiniau.
"Mae'n rhoi safle addas at y diben i'n swyddogion y gallan nhw fynd o gylch eu gwaith beunyddiol ohono. Bydd agosrwydd swyddogion yr heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu at y cyhoedd ac eraill sy'n defnyddio'r hyb i weithio gyda'r gymuned, heb os yn creu llawer o gyfleoedd ar gyfer ymgysylltu a rhyngweithio rheolaidd.
"Ond nid gorsaf heddlu draddodiadol yw'r hyb, does dim mynedfa a desg i godi ofn. Rydyn ni wedi camu ymlaen i sefyllfa lle mae swyddogion yr heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn treulio mwyafrif helaeth eu hamser yn y gymuned, sef y lle gorau iddyn nhw dreulio eu hamser.
"Os oes angen cymorth yr heddlu ar bobl, mae ffôn melyn wedi ei osod y tu allan i'r adeilad, sy'n rhoi'r gallu i bobl ffonio'r rhif di-argyfwng, 101, yn syth ac am ddim ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos."