Bydd Castell Caerdydd yn cynnal Marchogion Annaearol, byddwch yn ofalus, bydd Tiroedd y Castell yn llawn hanesion dychrynllyd ac arddangosiadau ymladd brawychus. Bydd y bwystfilod bach yn ôl gyda nadroedd, madfallod a phryfaid cop a mwy i chi ddod i gwrdd â nhw. Ac os meiddiwch, ewch i'r Sinema Danddaearol Calan Gaeaf neu bachwch Lwybr Calan Gaeaf a cheisio ateb y posau ar hyd y safle.
Dewch i godi canu yn Neuadd Dewi Sant pan ddaw Canu ar y CydBeauty and the Beastyno am ddwy sioe llawn hwyl i'r teulu. Ynghynt eleni, daeth y clasur Disney o 1991 yn ffilm fyw lwyddiannus a nawr bydd yn dangos yn Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru. Gyda chymorth y geiriau ar y sgrin, gall pawb ganu ynghyd gyda Belle, y Bwystfil, Gaston, Cogsworth, Mrs Potts a Chip!
Boed law neu hindda, mae Bae Caerdydd yn lle i gael chwa o awyr iach ac mae rhywbeth i ddiddanu plant o bob oed yno. Mae cerdded neu feicio ar hyd Llwybr y Bae yn ffordd dda o ddod i adnabod y Bae yn well a mwynhau golygfeydd hynod. Mae'r cylch fymryn dros 6 milltir/10km ac mae mannau o ddiddordeb yn ogystal â bywyd gwyllt, mannau chwarae, amrywiaeth o gaffis a siopau hufen iâ ar hyd y daith. Am brofiad rhyngweithiol, caiff y fforwyr bychain lawrlwytho App Llwybr y Bae a mwynhau wrth ddysgu am hanes yr ardal ar y daith.
Bydd plant sy'n chwilio bob tro am antur wrth eu boddau yng Nghanolfan benigamp Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd lle ceir llawer o weithgareddau mewn un lle arbennig. Cânt hwyl ar ffrydiau o ddŵr ar fwrdd corff gyda Thon Dan Do, yn arbennig oherwydd bod y cynllun dwy lôn yn rhoi'r gallu i deuluoedd a phlant fireinio eu sgiliau ynghyd.
Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys sesiynau blasu canŵio a chaiacio, Antur Awyr yn cynnwys rhaffau uchel a gwifrau sip sydd i fyny fry uwchlaw'r cwrs dŵr gwyn, y wal ddringo a llogi beics.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae Caerdydd yn ddinas wych o ran cynnig ystod amrywiol o weithgareddau yn ystod gwyliau'r ysgol ac mae'r hanner tymor hwn yn argoeli'n dda ar gyfer plant o bob oed. O gelf a chrefft, theatr, chwaraeon neu weithgareddau Calan Gaeaf, chaiff rhieni a gofalwyr ddim trafferth yn diddanu'r plant."
Draw yn y parciau, bydd teithiau cerdded calan gaeaf, naddu pwmpen a digwyddiad bywyd gwyllt yr hydref ym Mharc Bute. Yn Fferm y Fforest, caiff plant faeddu eu dwylo wrth greu darn o waith celf yr hydref gyda dail, cnau ac aeron y cânt fynd ag o adref.
Bydd cynlluniau chwarae difyr yn rhad ac am ddim bob diwrnod o'r wythnos mewn lleoliadau ar hyd y ddinas gan bedwar tîm chwarae yn y gymuned. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.caerdydd.gov.uk/chwaraeplant
Bydd Amgueddfa Stori Caerdydd yn cynnal Peiriannau Penigamp, dan ysbrydoliaeth gwaith celf yr artist lleol enwog, Charles Byrd a bydd nifer o weithgareddau i blant yn Neuadd Llanofer, yn cynnwys bwganod clai, barddoniaeth, gwisgoedd calan gaeaf a chelf a chrefft Guto Ffowc.
Welsoch chi un o drigolion mwyaf diweddar y ddinas eto? - Mae'r cŵn eira yma i helpu i godi arian ar gyfer Tŷ Hafan. Aiff Llwybr Cynffonau Cymru â chi o amgylch y ddinas, y Bae a thu hwnt felly beth am lawrlwytho'r app i weld faint y gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw!
Yna, wrth i'r hanner tymor ddod i ben, gwyliwch yr wybren yn goleuo dros Gae Cooper pan fo Sbarcs yn y Parc yn ôl eto gyda'r sioe dân gwyllt wych nos Sadwrn 4 Tachwedd.