Back
Mwy o ddynion nag erioed yn cymryd rhan mewn ymgyrch trais domesti

Bu cynifer â 137 o ddynion yn y Brifddinas heddiw i gerdded milltir mewn esgidiau menyw a dangos eu cefnogaeth i'r Rhuban Gwyn, yr ymgyrch y mae dynion yn ei harwain i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae Cerdded Milltir yn Ei Hesgidiau'n broject partneriaeth rhwng y Cyngor, Cymdeithas Tai Cadwyn a Chyngor Bro Morgannwg ac mae'n cael ei rhoi ar waith am y bedwaredd flwyddyn. Eleni bydd y digwyddiad yn denu mwy o gyfranogwyr nag erioed a 37 mwy o gerddwyr na'r llynedd.

Dechreuodd y daith ar bwys Castell Caerdydd a dilynodd lwybr un filltir o amgylch canol y ddinas hyd at y diwedd, yn ôl ar bwys y castell. Roedd aelodau o'r cyhoedd a dynion o sefydliadau megis Heddlu De Cymru, Tai Cadwyn, Cymru Ddiogelach a'r Post Brenhinol yn cael cwmni ar y daith gerdded gan uwch staff.

Bu Cynghorydd Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gynllunio a Thrafnidiaeth, a Llysgennad rhuban wen, y Cynghorydd Caro Wild, yn cymryd rhan yn y daith gerdded. Dywedodd: "Ymgyrch y Rhuban Gwyn yw'r mudiad byd-eang mwyaf o ddynion a fechgyn sy'n gweithio i atal trais yn erbyn menywod a merched, i hyrwyddo Cydraddoldeb Rhywiol a fersiwn newydd o wrywdod.

"Dangosodd y digwyddiad heddiw ein hymrwymiad at weithio tuag at newid diwylliant ac atal ymddygiad annerbyniol yn y gweithle a'r tu allan iddo. Mae twf y digwyddiad hwn yn dangos bod Caerdydd yn ddinas sy'n newid agweddau, nad yw'n goddef trais yn erbyn menywod o unrhyw fath."

Dywedodd Chris O'Meara, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Cadwyn: "Roedd yn ddechrau dibwys i'r ymgyrch gyntaf yn 2014 gyda dim ond 14 o ddynion o Cadwyn yn cerdded milltir i lawr Heol Casnewydd gyda baner i gefnogi Ymgyrch y Rhuban Gwyn. Mae mynd i'r afael â cham-drin domestig yn flaenoriaeth i Cadwyn ac rwy'n falch iawn o sut mae hwn wedi tyfu bob blwyddyn a faint  o ymwybyddiaeth mae'n ei chodi ar faterion mor bwysig. 

Bob blwyddyn yn y DU mae dros filiwn o ferched yn dioddef cam-drin domestig ac mae 360,000 yn dioddef ymosodiadau rhywiol. Er bod cam-drin yn effeithio ar ferched gan fwyaf, gall unrhyw un ddioddef o drais a cham-drin.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Ymgyrch Rhuban Gwyn ac i fod yn gennad ewch ihttps://www.whiteribbon.org.uk

Ymunwch â'r sgwrs #rhubanwencaerdyddbro

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef cam-drin, gallwch gael cymorth a chefnogaeth gan linell gymorth Byw Heb Ofn: 0808 80 10 800 (llinell gymorth gyfrinachol 24 awr am ddim)www.livefearfree.gov.wales