Back
Agor Arddangosfa Charles Byrd yn Amgueddfa Stori Caerdydd

Yn rhan o'r arddangosfa y mae paentiadau o'r ddinas gan gynnwys y dociau a'r ardaloedd diwydiannol. Pan ddechreuodd Byrd baentio'r dociau yn y 1960au, roedd anterth y dociau ar ben ac roedd yr ardal yn newid. Mae'r paentiadau hyn wedi rhoi cyfnod ar gof a chadw ac maen nhw'n rhoi cipolwg i ymwelwyr ar hanes diwydiannol cyfoethog Caerdydd.

Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys rhai o'r cerfluniau a wnaeth Byrd o wrthrychau y daeth ar eu traws, ei 'beiriannau hud'.

Dywedodd y Swyddog Arddangosfeydd Alison Tallontire: "Mae'n bleser gennym allu dangos campau celfyddydol Charles Byrd yn Amgueddfa Stori Caerdydd. Mae'n hynod ddiddorol gweld portread Charles o'r ddinas yn y 1960au a sut y mae wedi newid gyda threigl amser, a hynny yma yn amgueddfa hanes cymdeithasol y ddinas.

Dywedodd Rheolwr yr Amgueddfa, Victoria Rogers: "Cyn i Amgueddfa Stori Caerdydd ddod i'r Hen Lyfrgell, roedd yn gartref i stiwdios arlunwyr a byddai Charles yn gweithio yma ac yn creu ei beiriannau hudol, felly mae'n wych croesawu ei waith celf yma unwaith eto a rhoi cyfle arall i ymwelwyr i ryfeddu ar ei baentiadau a'i gerfluniau."

Mae'r arddangosfa wedi agor yn Amgueddfa Stori Caerdydd a bydd yn croesawu ymwelwyr tan 18 Mawrth, 2018.