Mae datganiad, a
lofnodwyd o flaen Neuadd y Ddinas Caerdydd gan yr holl Ddinasoedd Craidd, yn
honni nad yw Cynllun Aer Glân y Llywodraeth, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni,
yn ddigonol i fynd i’r afael â heriau iechyd, nad yw’n addo digon o adnoddau i
gynghorau lleol i wneud gwahaniaeth, a’i fod yn cynnig yr un dull i bobman, na
fydd yn gweithio ar lawr gwlad.
Mae’n galw ar y
Llywodraeth i annog pobl i ddefnyddio faniau a cheir trydan a rhai allyriadau
isel, gan ychwanegu bod angen cefnogi busnesau a phobl a allai ei chael hi'n
anodd prynu cerbyd newydd.Mae hefyd yn galw am Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth
sy’n nodi sut y gall llywodraeth leol a chenedlaethol weithio gyda'i gilydd i
fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael.
Mae chwarter o
ffyrdd mwyaf llygredig y DU yn y dinasoedd craidd a’r cyffiniau.
Yn siarad yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, lle llofnodwyd y
siarter, dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:“Mae ansawdd yr aer rydym yn ei anadlu’n
broblem fawr yn ninasoedd Prydain, ac mae hyn yn cynnwys Caerdydd.Mae’n hawdd meddwl
mai dim ond mewn dinasoedd mawr fel Llundain, Mumbai a Beijing mae llygredd aer
yn broblem,ac nad oes angen i ni boeni mewn prifddinasoedd bach fel Caerdydd.Mae hynny’n gwbl
gamarweiniol.
“Mae llygredd aer yn llofrudd cudd yng
Nghaerdydd.Mae Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Caerdydd yn amcangyfrif ei fod yn gyfrifol
am 5% o’r marwolaethau yn y ddinas.Mae hynny’n tua 143 o farwolaethau’r flwyddyn, ac
mae llawer o’r ardaloedd yr effeithir arnynt waethaf yn y ddinas fewnol ac mewn
cymunedau mwy difreintiedig.Waethaf oll, ein plant sydd yn y perygl mwyaf.
“Rydyn ni’n benderfynol o fynd i’r afael â
hyn.Mae
fy ngweinyddiaeth yn ymrwymedig i gyflwyno Papur Gwyrdd Trafnidiaeth Gynaliadwy
yn ddiweddarach eleni a fydd yn cynnwys cyfres o gynigion uchelgeisiol ar sut y
gallwn ailddylunio system drafnidiaeth Caerdydd i’w gwneud yn fwy diogel ac
iach i bawb."
Dywedodd y Cynghorydd Judith Blake, cadeirydd Dinasoedd Craidd y DU ac arweinydd Cyngor Dinas Leeds:“Mae llygredd aer yn arwain at nifer syfrdanol o farwolaethau ar draws ein dinasoedd bob blwyddyn, ac mae angen i ni weithredu’n lleol ac ar frys.Yn ogystal â’r marwolaethau diangen, mae ansawdd aer gwael hefyd yn arwain at salwch hirdymor, gan wneud bywydau pobl yn anghynhyrchiol a thruenus.
“Mae cynllun y Llywodraeth yn ddechrau da, ond nid yw’n ddatrysiad
cynaliadwy.Mae angen i Whitehall a San Steffan weithio gyda ni fel y gallwn wneud
gwahaniaeth.
“Rydyn ni eisiau gweld cytundeb gyda’r Llywodraeth a fydd yn nodi sut y
gall arweinwyr lleol a chenedlaethol gydweithio, gan roi’r adnoddau sydd eu
hangen ar ddinasoedd i gyflawni newidiadau lleol.”
Ychwanegodd y
Cynghorydd Nick Forbes o Gyngor Dinas Newcastle ac aelod cabinet Dinasoedd
Craidd y DU dros y portffolio Ansawdd Aer:“Dyma faes y mae angen i ni, fel
dinasoedd, arwain yn adeiladol arno.Does dim pwynt cyflwyno datrysiadau o’r brig a
gadael i lefydd gystadlu am yr arian.Mae angen gweithio mewn partneriaeth a
chydnabyddiaeth gan y Llywodraeth mai datrysiadau lleol fydd y rhai mwyaf
effeithiol.”