Back
Dod o hyd i Balasau Hynod Ddifyr yn Amgueddfa Stori Caerdydd

Mae'r digwyddiad hwn, a gynigir am ddim, yn gwahodd y cyhoedd i alw heibio o 10am tan 3pm a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau celfyddydol, crefftau a gwyddoniaeth. Mae'r digwyddiadau'n cynnwys crefftau canoloesol, bod yn archeolegydd am y dydd, dysgu am fwystfilod bach a phryfed a sut i nodi gwahanol rywogaethau a dysgu am hanes yr Oes Haearn.

Mae'r partneriaid sy'n helpu i gynnal y gweithgareddau yn cynnwys grŵp Celfyddydau Caerau a Threlái, gwasanaeth llyfrgell Caerdydd a grŵp Goldies sy'n gweithio o Lyfrgell Rhydypennau.

Dywedodd Victoria Rogers, Rheolwr yr Amgueddfa, "Dyma'r Palas Hynod Ddifyr cyntaf i ni ei gynnal, a hwn fydd yn unig un yng Nghaerdydd eleni. Y peth gorau am weithgareddau palasau hynod ddifyr yw eu bod yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr yn y gymuned. Mae'n ymwneud â rhannu'r holl sgiliau a doniau cudd sydd gennym!"

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae Amgueddfa Stori Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i deuluoedd. Bydd Palasau Hynod Ddifyr yn cynnig llawer o weithgareddau am ddim ac yn addysgu plant ac oedolion am amrywiaeth o bynciau mewn amgylchedd hwyliog a hamddenol."

I gael rhagor o wybodaeth am Balasau Hynod Ddifyr ewch ihttp://funpalaces.co.uk/about/

Yr wythnos hon roedd Amgueddfa Stori Caerdydd yn bresennol yn y Gwobrau Plant mewn Amgueddfeydd mawr eu bri, sef y gwobrau amgueddfa mwyaf Prydain. Roedd yr amgueddfa wedi cael ei henwebu ar gyfer y wobr Amgueddfa sy'n Ystyriol o Deuluoedd, ond Amgueddfa Hanes y Bobl Manceinion aeth â hi yn y pendraw.

Cafodd Amgueddfa Stori Caerdydd ei chanmol am ei gwaith cymunedol ac am redeg digwyddiadau yn hyrwyddo sgiliau iaith.

I ddysgu mwy am Amgueddfa Stori Caerdydd ewch iwww.cardiffstory.com@storicaerdydd.