Back
‘Ddim yn ein dinas, ddim yn ein cymunedau, ddim i'n plant'

Mae cannoedd o bobl o sefydliadau ledled y DU wedi dod ynghyd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd fel rhan o ymrwymiad i daclo Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant. 

[image]

Jan Coles (Rheolwr Atal Camfanteisio Rhywiol Blant), Cyng Graham Hinchey
(Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd) and Cyng Susan Elsmore
(Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles)

 

Ymunodd y sefydliadau â Chyngor Caerdydd i ffurfio Grŵp Buddiant Proffesiynol Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant Caerdydd yn 2015, a'r cyfarfod hwn oedd yr un mwyaf hyd yn hyn.

 

Yn siarad yn y digwyddiad, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cynghorydd Graham Hinchey: "Mae Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant yn drosedd sy'n cael effaith drychinebus ar blant.

 

"Mae Grŵp Buddiant Proffesiynol Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant Caerdydd yn symbol o'r ymrwymiad a'r penderfyniad i wneud popeth yn ein gallu i roi stop ar gamfanteisio rhywiol.

 

"Gydag ymrwymiad pob gweithiwr proffesiynol a sefydliad sy'n dod i gysylltiad â phlant, gan gydweithio i greu un strategaeth integredig, gallwn ddelio'n effeithiol â'r materion cymhleth sydd ynghlwm wrth Gamfanteisio'n Rhywiol ar Blant.

 

"Gall ein cydweithwyr yn y meysydd iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, cyfiawnder troseddol a'r trydydd sector yma yng Nghaerdydd a thu hwnt oll wneud cyfraniad gwerthfawr.

 

"Dyma gyfle i ddysgu gan ein gilydd, herio ein gilydd ac ysbrydoli ein gilydd i barhau i wneud popeth yn ein gallu i roi terfyn ar drais.

 

"Mae cam-fanteisio'n rhywiol ar blant yn staen ar ddinasoedd a chymunedau drwy'r wlad ac ni chaiff ei oddef - ddim yn ein dinas ni, ddim yn ein cymunedau ni, nid i'n plant ni."