Mae’r system 'Rholio Cyflym', sydd wedi mynd drwy brofion ar y safleoedd yn ei gwneud yn bosibl i ddadrowlio paneli solar ffotofoltäig fel carped o ôl-gerbyd mewn dwy funud!Yn y pen draw, bydd ynni sy’n cael ei greu'n pweru'r adeiladau ar ynys Echni, sydd yng ngofal Cyngor Caerdydd. Bydd hefyd yn bosibl gwefru dau gerbyd trydan Nissan Env200 yn Ffordd Lamby.
Y cwmni sydd y tu ôl i’r dechnoleg ‘Rholio Cyflym' – Renovagen Ltd – oedd un o enillwyr cystadleuaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach (MYBB) gan Gyngor Caerdydd y llynedd. Cafodd cystadleuaeth MYBB gyllid gan Lywodraeth Cymru, sefydliad Innovate Uk a’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd (Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol bellach). Inside2Outside Ltd oedd yr enillydd arall am greu generadur symudol oedd yn cynnwys mwy na 40 o baneli solar hyblyg.
Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a’r Amgylchedd:“Rwy’n llawn cyffro am y gwaith hwn sy’n arwain y gad ym maes technoleg ynni solar. Mae ganddo botensial i newid y ffordd rydyn ni'n rheoli ein gofynion ynni yn y dyfodol. Mae’r ynni sydd wedi'i greu drwy ddefnyddio'r systemau solar symudol hyn mewn byr amser yn drawiadol iawn - 11kW o ôl-gerbyd bach o fewn dwy funud neu hyd at 300kW o gynhwysydd llongau cyn pen awr. Mae gallu hyrwyddo technoleg newydd fel hyn yn adleisio pwysigrwydd y gystadleuaeth MYBB y mae Cyngor Caerdydd yn ei harwain.”
Dyweoddd Rheolwr Gyfarwyddwr Renovagen Ltd., John Hingley:“Mae’n bleser gennym fod wedi cwblhau'n gwaith o osod systemau ynni solar RHOLIO CYFLYM ar Ynys Echni a Ffordd Lamby. Bu modd i ni ddangos symudedd a chadernid arbennig system RHOLIO CYFLYM ar Ynys Echni. Cafodd hynny ei gyflawni drwy gludo’r uned i draeth ar gwch glanio, drwy symud i safle cannoedd o fetrau ymaith, a gosod y cae solar cyfan - o fewn awr. Yn ogystal â hynny, mae system ynni adnewyddadwy symudol wedi gwefru Cerbydau Trydan yn llwyddiannus, ac mae hynny’n dilysu’r defnydd o’r dechnoleg hon i ddatblygu cludiant cynaliadwy ar safleoedd lle efallai nad oes cysylltiad grid ar gael, neu lle y mae angen datrysiad ar frys. I ni, mae hyn yn ddatblygiad pwysig yng nghyd-destun ffyniant y defnydd o gerbydau trydan a’r straen ychwanegol ar y grid trydan o wefru cerbydau trydan.”
Ychwanegodd Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Cymru, Julie James, sy’n arwain arloesi ac ymchwil ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru: “Mae’r Fenter Ymchwil Busnesau Bach yn dangos sut y gall y sector cyhoeddus a phreifat weithio gyda’i gilydd yn llwyddiannus i fynd i’r afael â heriau yn y gymdeithas a heriau amgylcheddol mewn ffyrdd arloesol a chyflawni buddion ar gyfer cyrff cyhoeddus a diwydiant, yn ogystal ag ar gyfer y bobl y maen nhw’n eu gwasanaethu.
“Rydyn ni’n gweithio gyda Chyngor Caerdydd ers nifer o flynyddoedd ar brojectau MYBB. Mae hyn yn enghraifft wych o’r ffordd y mae’r awdurdod yn cydweithio’n effeithiol gyda’r byd diwydiannol i ddatrys rhai o’r heriau pwysicaf i ni i gyd. Mae defnyddio ffynonellau ynni cynaliadwy ac ecogyfeillgar yn flaenoriaeth allweddol i’r llywodraeth hon ac rwy’n edrych ymlaen at weld datblygiad y project cyffrous hwn.”
Dywedodd Bryan Forbes, arweinydd arloesi Innovate UK, asiantaeth arloesi’r DU: “Mae’n bleser gan Innovate UK gefnogi’r project arbennig hwn, nid yn unig oherwydd y dechnoleg gysylltiedig, ond hefyd oherwydd ei fod eisiau gweithio â’r awdurdod lleol a oedd wedi ymrwymo i arloesi. Cyngor Caerdydd yw’r cyntaf yn y DU i gynnal cystadleuaeth fel hyn ac mae’r ateb solar yn gwbl addas i’r amgylchedd naturiol.”