Back
Canllaw i wneud cais am le ysgol yng Nghaerdydd

Mae dechrau yn yr ysgol gynradd neu bontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd yn gyfnod cyffrous i blant a rhieni.

 

Gall hefyd fod yn gyfnod llawn straen wrth benderfynu ar ba ysgolion i wneud cais ar eu cyfer, a rhieni a phlant wedyn yn gorfod aros i weld a yw eu cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio.

 

[image]

 

Ond mae rhai pethau allweddol y gellir eu gneud a fydd yn helpu i wneud y broses mor ddidrafferth â phosibl:

 

  • Ymweld ag ysgolion cyn gwneud cais er mwyn cael cymaint o wybodaeth â phosibl - gellir dod o hyd i restr lawn o ysgolion ar-lein ynwww.caerdydd.gov.uk/ysgolion

  • Cyflwyno ceisiadau erbyn y dyddiadau cau perthnasol a nodir isod

  • Gwneud cais am bum ysgol ar gyfer pontio i ysgol uwchradd, neu dair ysgol o ran derbyn i ysgol gynradd

 

Eleni, mae'r trefniadau derbyn i'r ysgol yng Nghaerdydd ychydig yn wahanol i rai awdurdodau lleol eraill, gan mai dyma'r lle cyntaf yng Nghymru i dreialu system gydlynol. Golyga hyn y gellir cynnwys rhai o'r ysgolion uwchradd sefydledig a ffydd ar yr un ffurflen. Yn y gorffennol, roedd yn rhaid cyflwyno'r ceisiadau hynny ar wahân, yn uniongyrchol i ysgolion.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio ar gyfer y gwahanol fathau o ysgolion (ysgolion cymunedol, ysgolion ffydd ac ysgolion sefydledig) ar gael ar-lein ynwww.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion

 

Amserlen ac awgrymiadau ar gyfer gwneud cais

 

Hydref

  • Gofyn am wybodaeth am ysgolion o ddiddordeb a mynychu diwrnodau agored - nid oes gan rai ysgolion ddiwrnodau agored, ond efallai y gallwch ffonio a gwneud apwyntiad i ymweld â'r ysgolion dan sylw

  • Penderfynu ar eich dewisiadau ysgol a'u nodi yn nhrefn blaenoriaeth

  • 2 Hydref 2017 - y dyddiad agor ar gyfer ceisiadau i ysgolion uwchradd yng Nghaerdydd (www.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion)

 

Tachwedd

  • 13 Tachwedd 2017 - y dyddiad agor ar gyfer ceisiadau i ysgolion cynradd

 

Rhagfyr

  • 4 Rhagfyr 2017 - y dyddiad cai ar gyfer ceisiadau i ysgolion uwchradd

 

Ionawr

  • 8 Ionawr 2018 - y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i ysgolion cynradd  

 

Rhai pethau pwysig i'w cadw mewn cof wrth ymgeisio

 

  • Ni chynigir lle ysgol i chi os nad ydych chi'n gwneud cais

  • Nid oes gennych well siawns o gael lle mewn ysgol drwy ei rhestru'r fwy nag unwaith

  • Ni warentir lle yn ysgol eich dalgylch, ond mae'n well ei chynnwys ar eich rhestr flaenoriaeth, hyd yn oed os ydych chi'n ei nodi'n is ar y rhestr

  • Ni pheryglir eich siawns o gael cynnig lle yn eich prif ddewis drwy dderbyn cynnig am le mewn ysgol sy'n ddewis is gennych - mae dal modd i chi dderbyn cynnig gan eich dewis ysgol os daw lle ar gael ar ddyddiad hwyrach

  • Nid yw'r ffaith bod brawd neu chwaer eisoes mewn ysgol yn gwarantu lle yno, ond sicrhewch eich bod chi'n cynnwys eu manylion yn eich cais

  • Nid yw mynychu'r feithrinfa sy'n gysylltiedig â'ch dewis ysgol yn golygu lle awtomatig mewn dosbarth derbyn - bydd angen cyflwyno cais newydd

 

Gall cais hwyr effeithio'n sylweddol ar eich siawns o gael lle, felly nodwch y dyddiadau cau, dyma nodyn atgoffa:

 

  • Ysgolion Uwchradd: Dydd Llun 4 Rhagfyr 2017

  • Ysgolion Cynradd: Dydd Llun 8 Ionawr 2018

 

I gael gwybod mwy am y broses derbyn i'r ysgol yng Nghaerdydd, ac i wneud cais ar-lein, ewch i www.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion