Mewn llai na mis, bydd dynion o bob oedran yn gwisgo pâr o esgidiau menywod ac yn dod i brifddinas Cymru i ddangos eu cefnogaeth i'r ymgyrch i ddileu trais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Cynhelir‘Cerdded Milltir yn ei Hesgidiau Hi'ddydd Gwener 20 Hydref am 10.00am. Caiff dynion o bob rhan o Gaerdydd a thu hwnt eu hannog i fod yn rhan o'r daith gerdded sy'n dechrau yng Nghastell Caerdydd ac yn dilyn llwybr milltir o hyd o amgylch canol y ddinas.
Bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, mae'r project partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd a Chymdeithas Tai Cadwyn yn gobeithio denu 150 o bobl, 50 yn fwy na'r llynedd.
Os hoffech gofrestru â'r digwyddiad ewch iwww.walkinhershoes.wales
Mae trefnwyr hefyd yn apelio am esgidiau merched i'r dynion eu gwisgo ar y diwrnod, felly os oes gennych esgidiau maint wyth neu fwy nad ydych eu heisiau mwyach, neu os ydych yn siop â digon o esgidiau merched mewn stoc ac yn gallu eu rhoi i ni, cysylltwch.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore: "Fel awdurdod lleol rydym am godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn merched, herio agweddau a chynnwys dynion yn y drafodaeth. Mae‘Cerdded Milltir yn ei Hesgidiau Hi'yn un o'n digwyddiadau allweddol i hyrwyddo ymrwymiad y ddinas i'r Ymgyrch Rhuban Gwyn.
"Mae ein partneriaeth lwyddiannus â Chymdeithas Tai Cadwyn wedi golygu bod y digwyddiad wedi mynd o nerth i nerth ac eleni hoffem petai hyd yn oed mwy o ddynion yn cymryd rhan.
"Er bod elfen o hwyl i'r digwyddiad, mae'r neges yn glir. Yn wir, mae'r daith ei hun yn dangos ymrwymiad cyhoeddus a gweladwy gan y sawl sy'n cymryd rhan i beidio â derbyn trais yn erbyn merched mewn unrhyw ffurf. Anogaf sefydliadau ac aelodau'r cyhoedd i ymuno â'r digwyddiad pwysig hwn."
Dywedodd Chris O'Meara, Prif Weithredwr Cadwyn: "Dechreuodd y digwyddiad hwn â 14 o ddynion a oedd yn gweithio i Cadwyn, yn cerdded i lawr Heol Casnewydd mewn sodlau uchel ac yn cario baner. Mae'n wych gweld sut y mae'n tyfu. Waeth faint o ferched sy'n gefnogol i'r achos, bydd dynion yn sefyll i ddweud bod trais domestig bob amser yn anghywir yn neges hyd yn oed yn fwy pwerus. Rydym yn awyddus i ddal i gefnogi'r ymgyrch hon."
Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth a'i Hyrwyddwr Trais Domestig: "Nod yr ymgyrch hon yw annog dull dim goddefgarwch at drais domestig yn erbyn merched. Fel cennad y Rhuban Gwyn anogaf ddynion eraill i gofrestru i fod yn rhan o'r digwyddiad hwn, gan addo i beidio byth â chyflawni, cydoddef na bod yn dawel ynghylch trais yn erbyn merched."
Bob blwyddyn yn y DU mae dros filiwn o ferched yn dioddef cam-drin domestig a chaiff 360,000 eu hymosod arnynt yn rhywiol. Er bod cam-drin yn effeithio ar ferched gan mwyaf, gall unrhyw un ddioddef o drais a cham-drin.
Am fwy o wybodaeth am yr Ymgyrch Rhuban Gwyn ac i fod yn gennad ewch iwww.whiteribboncampaign.co.uk
Ymunwch â'r sgwrs #rhubangwyncdyddarfro
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn cael ei gam-drin, gallwch geisio help a chymorth gan linell gymorth Byw Heb Ofn: 0808 80 10 800 (llinell gymorth gyfrinachol 24 awr am ddim)www.livefearfree.gov.wales <http://www.livefearfree.gov.wales>