Gallai beicwyr yng Nghaerdydd fod yn pedaluar hyd Uwch Brif-ffyrdd Beicio cyntaf y ddinaserbyn 2021 yn ôl adroddiad sy'n mapio gweledigaeth Caerdydd i fod yn ddinas feicio o'r radd flaenaf.
Mae'r adroddiad, a gaiff ei drafod mewn adroddiad Cabinet yr wythnos nesaf, yn gosod ger bron Fap Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol y ddinas (MRhI) cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo ac mae'n nodi ystod o welliannau seilwaith i lwybrau cerdded a beicio yng Nghaerdydd, gan gynnwys Uwch Brif-ffyrdd Beicio newydd yn croesi'r ddinas.
Bwriedir i'r Uwch Brif-ffyrdd gyflawni newid sylweddol yn y ddarpariaeth feicio, gan greu llwybrau beicio llydan, 2 ffordd i drigolion, sydd wedi'u gwahanu'n briodol o'r traffig ar ffyrdd prysur ac sy'n cysylltu cymunedau â chanol y ddinas ac â chyrchfannau allweddol eraill, megis Ysbyty Prifysgol Cymru a phrifysgolion y ddinas.
Bydd cerdded yn ôl a blaen rhwng 36 o ysgolion y ddinas hefyd cael eu gwneud yn fwy diogel ac yn haws dros y pum mlynedd nesaf.Mae ‘parthau diogelwch i ysgolion' a gwelliannau eraill i gerddwyrwedi'u rhestru yn yr adroddiad fel blaenoriaethau tymor byr.
Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: "Os caiff ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, bydd ein Map Rhwydwaith Integredig yn dod yn sylfaen i'n cynllun i fynd i'r afael â thagfeydd, cefnogi economi'r ddinas a gwella iechyd pobl ac ansawdd yr awyr rydym yn ei anadlu, trwy roi teithio llesol wrth galon polisi trafnidiaeth Caerdydd.
"Mae mwy a mwy o bobl yn cerdded ac yn beicio, ond nid yw'n newid yn ddigon cyflym. Y gwir yw bod ffyrdd Caerdydd wedi'u dylunio yn bennaf i fod o fudd i ddefnyddwyr ceir, sef y rheswm yn rhannol bod ceir yn tra-arglwyddiaethu yn y ddinas. Mae'r cynigion hyn yn arwydd o fwriad y weinyddiaeth hon i newid ein seilwaith er mwyn blaenoriaethu cerdded a beicio dros ddefnyddio ceir preifat."
"Yn amlwg, mae'r lefel hon o seilwaith yn ddrud iawn a bydd angen i ni weithio gyda rhanddeiliaid a buddsoddwyr er mwyn gwireddu'r gwelliannu y gwyddom eu bod yn hanfodol er mwyn dyfodol y ddinas."