Mae chwech o arwyr ifanc Roald Dahl yn barod i'w dadorchuddio, mewn lleoliadau godidog ar draws y DU, fel modelau LEGO® unigryw i ddathlu Diwrnod Dahl - y dathliad byd eang ar gyfer un o brif storïwyr y byd. Mae Diwrnod Dahl yn ddigwyddiad blynyddol o amgylch achlysur pen-blwydd yr awdur ar 13 Medi.
Mewn partneriaeth ag Ystâd Lenyddol Roald Dahl a Chyngor Caerdydd, mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd Castell Caerdydd yn cynnig cartref i James, arwr anturus nofel gyntaf Roald Dahl i blant,James and the Giant Peach.Cynhaliodd dinas Caerdydd, man geni Roald Dahl, nifer o ddigwyddiadau i ddathlu Roald Dahl 100 yn 2016, oedd yn cynnwys ei thrawsnewidiad ar gyferRoald Dahl's City of the Unexpectedym mis Medi.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd ar gyfer Diwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Rwyf wrth fy modd fod y trefnwyr wedi dewis Castell Caerdydd fel y lleoliad ar gyfer y cerflun LEGO o James oherwydd James and the Giant Peach oedd fy hoff lyfr gan Roald Dahl pan oeddwn i'n blentyn. Gellir dadlau mai Roald Dahl yw'r person enwocaf i gael ei eni yng Nghaerdydd, ac fel y dangosodd y tyrfaoedd a heidiodd yma ar gyfer dathliadau City of the Unexpected y llynedd, mae ei boblogrwydd yn tyfu o nerth i nerth. Dyna addas fod dinas ei eni yn lleoliad mor amlwg yn y dathliadau cenedlaethol hyn o athrylith Roald Dahl."
Bydd hanes adeiladu LEGO® James yn cael ei ddadorchuddio ar Ddiwrnod Dahl - 13 Medi. Cafodd ei greu allan o 30,200 o frics a chymerodd 160 o oriau i'w adeiladu. I gyd-fynd â'r dadorchuddiad, mae Llenyddiaeth Cymru wedi trefnu gweithdy ar gyfer disgyblion ysgolion lleol gyda Bardd Plant Cymru, Casia Wiliam. Bydd y plant yn cael eu hysbrydoli gan arwyr Roald Dahl er mwyn creu eu straeon eu hunain.
Bydd James yn aros yng Nghastell Caerdydd am ddeufis. Mae Castell Caerdydd ar agor rhwng 9.00 am a 6.00 pm, saith diwrnod yr wythnos, gydathâl mynediad. Gofynwn i ymwelwyr rannu eu lluniau o James trwy ddefnyddio #LegoJames, #DiwrnodDahl a #RoaldDahlDay ar Twitter, Facebook ac Instagram.
Bydd James a'i gyd-arwyr LEGO® Roald Dahl yn un o uchafbwyntiau amlwg dathliadau Diwrnod Dahl 2017, sydd eleni'n amlygu arwyr ifanc eiconig Roald Dahl. Mae'r arwyr ifanc yn ei straeon yn unigolion arbennig tu hwnt, yn llawn ysbryd gwrthryfel iach a gwydnwch. Roedd Roald Dahl, trwy gydol ei yrfa, yn bencampwr ar gyfer plant.Pa ARWR Roald Dahl yw'ch ffefryn CHI?
Mae pob un o'r chwe cymeriad Roald Dahl wedi eu hadeiladu gan Duncan Titmarsh - unig adeiladwr LEGO® proffesiynol ardystiedig y DU - a'i dîm yng ngweithdy Bright Bricks yn Bordon, Hampshire.
Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:"Rydym ni'n hynod o falch o groesawu James - pob un fricsen ohono - i Gaerdydd yr hydref hwn. Gobeithiwn y bydd LEGO® James yn annog ymwelwyr i ddarllen llyfrau anturus Dahl, i ddisgyn mewn cariad gyda'r arwyr ifanc, a chael eu hysbrydoli i greu rhai eu hunain; fesul bricsen a fesul gair."
Meddai Bernie Hallo Ystâd Lenyddol Roald Dahl: "Rydym wrth ein bodd fod James ar ei ffordd i Gastell Caerdydd. Mae'n lleoliad perffaith iddo ac yn nodi'r cyswllt cryf rhwng Roald Dahl a Chymru. Mae'n ffordd wych o ddathlu James a holl arwyr ifanc anhygoel Roald Dahl ar Ddiwrnod Dahl."
Dyma'r rhestr lawn o'r chwe Arwr LEGO® Roald Dahl a'u lleoliadau:
Billy- arwr dewrBilly and the Minpins, llyfr olaf Roald Dahl
- I'w weld yn yr Eden Project yng Nghernyw.
Charlie- arwr hynawsCharlie and the Chocolate Factory
- I'w weld yn Llyfrgell Ganolog Manceinion.
George- arwr-ddyfeisydd anghonfensiynolGeorge's Marvellous Medicine
- I'w weld yng Ngorsaf Drenau Nottingham.
James- arwr anturusJames and the Giant Peach
- I'w weld yng Nghastell Caerdydd.
Matilda- arwres hoffus y llyfrMatilda
- I'w gweld yn y cyntedd yn Theatr Caergrawnt (Cambridge Theatre) Llundain, cartref cynhyrchiadMatilda the Musicaly Royal Shakespeare Company.
Sophie- arwres ddewr o storiThe BFG
- I'w gweld yng Nghanolfan Ymwelwyr Giant's Causeway yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngogledd Iwerddon.