Efallai bod Traeth Bae Caerdydd yn dal i ddenu pobl sydd am dorheulo i lannau'r dŵr, ond mae pobl yn dechrau meddwl am atyniad gorau'r gaeaf yn y ddinas, sef Gŵyl y Gaeaf Caerdydd, gyda thocynnau ar werth o 1 Medi (cardiffswinterwonderland.com).
Ar ôl i'r nifer fwyaf o sglefrwyr erioed ddod i'r llawr sglefrio y llynedd, mae tocynnau ar gyfer tymor 2017 bellach ar werth gyda hyd yn oed mwy i edrych ymlaen ato, a nifer o nosweithiau thema wedi'u cynllunio. Gwnaeth mwy na 60,000 o bobl wisgo eu hesgidiau sglefrio am y tro cyntaf y llynedd pan oedd Llawr Sglefrio Admiral dan do am y tro cyntaf, gan olygu na chollwyd unrhyw sesiynau oherwydd tywydd garw, gan gynnig profiad hyd yn oed mwy hudolus o dan y to disglair. Eleni, Caerdydd yw'r llawr sglefrio awyr agored cyntaf yn y DU i dderbyn Achrediad Hygyrchedd, gan alluogi hyd yn oed mwy o ddefnyddwyr cadeiriau olwyn i ddefnyddio'r llawr sglefrio.
Dywedodd Norman George Sayers, gweithredydd Gŵyl y Gaeaf Caerdydd: "Gwnaeth y to clir y llynedd wella'r profiad Nadoligaidd i ymwelwyr, ac ni fu unrhyw darfu yn sgil y tywydd. Byddwn yn dod yn ôl gyda'r holl ffefrynnau ac atyniadau newydd i wneud Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn rhan hanfodol o ddathliadau Nadolig y ddinas."
Bydd y llawrsglefrio'n agor ar 9 Tachwedd ac ar agor tan ddydd Llun, 8 Ionawr, pan fydd disgwyl dros chwarter miliwn o bobl ar y safle, yn cael eu denu gan yr Olwyn Fawr a reidiau ffair eraill, ynghyd â'r bwyd a diod sydd ar gael yn y Pentref Alpaidd traddodiadol a'r Bier Keller clud. Mae mwy o bengwiniaid eleni, ac am y tro cyntaf mae modd eu harchebu ymlaen llaw ar gyfer y rhai bach fydd angen ychydig mwy o help ar yr iâ!
Yn ogystal, mae 11th Hour, sef gweithredydd y llawr sglefrio wedi ehangu'r sesiynau addas i gadeiriau olwyn arbennig, a gyflwynwyd y llynedd yn sgil galw gan ddefnyddwyr cadeiriau olwyn am brofiad mwy cyffrous.
Dywedodd John Davies o 11th Hour: "Gwnaethom addo sesiynau hygyrch mwy anffurfiol eleni, ac rwy'n falch o ddweud ein bod wedi ateb y galw, ac mai ni yw'r llawr sglefrio awyr agored cyntaf yn y DU i gael Achrediad Hygyrchedd, gan alluogi mwy o ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rheiny sydd angen cymorth ychwanegol i gael profiad hwylus a chyffrous ar lawr sglefrio hamdden awyr agored Caerdydd. "
Tocynnau: Cardiffswinterwonderland.com aTicketSourcear0333 666 4466