Ym mis Medi 1947, cafodd Caerdydd yr anrheg orau erioed pan gyflwynodd 5ed Ardalydd Bute Gastell Caerdydd a'i barcdir i'w dinasyddion. I nodi 70 mlwyddiant y digwyddiad anhygoel hwn, Bydd y Castell yn mynd yn ôl i'r 40au am ddiwrnod yn llawn nostalgia ar gyfer y cyfnod ôl-ryfel hwn i'w gynnal ar ddydd Sul 10 Medi o 10am i 5pm.
Bydd seiniau'r 1940au lond tir y Castell, gyda pherfformiadau o'r llwyfan bandiau gan The Siren Sisters, Hot Potato Syncopaters a Band Pres Dinas Caerdydd (Melingriffith) a chwaraeodd yn y seremoni wreiddiol ym 1947. Dewch draw yn eich gwisg, gyda phicnic a mwynhewch y gerddoriaeth, defnyddiwch eich talentau i helpu i greu drama radio o'r 1940au, cymerwch ran mewn gemau poblogaidd i blant fel y ras sach a'r ras deirgoes a sgiliau syrcas 1940au. Bydd arddangosiadau coginio gan ‘The History Chefs' yn dangos sut y defnyddiwyd dognau bychain i fynd yr ail filltir mewn gyfnod o lymder.
Rhoddir darlith ben-blwydd arbennig gan y Curadur, Matthew Williams, a fydd yn adrodd stori fanwl yr amgylchiadau a'r trafodaethau a arweiniodd at yr anrheg arbennig hon i'r ddinas. Hyn a hyn o leoedd sydd i'r ddarlith a bydd tâl ychwanegol, felly mae angen cadw lle ymlaen llaw drwy ffonio 029 2087 8100.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Chwaraeon, Diwylliant a Hamdden, y Cyng. Peter Bradbury, ‘Mae'r Castell a'i barciau'n drysorau sifig, yn galon emosiynol i'r ddinas. Mae'r digwyddiad yn gyfle gwych i gydnabod y rhodd gan deulu'r Bute. Bydd deiliaid Allwedd Castell Caerdydd yn gallu defnyddio eu cardiau i gael mynediad am ddim i'r Castell ar y dydd.'