Back
Trefniadau arholiadau TGAU newydd yn darparu meincnod ar gyfer perfformiad Caerdydd

Derbyniodd bron 3,000 o bobl ar draws Caerdydd eu canlyniadau TGAU heddiw. 

Eleni, cyflwynwyd set newydd o gymwysterau TGAU yng Nghymru ar gyfer Mathemateg, Rhifedd, Saesneg iaith, Cymraeg iaith, Llenyddiaeth Saesneg a Llenyddiaeth Gymraeg. 

Hefyd, mae rheolau newydd wedi'u cyflwyno ar gyfer adrodd ar fesurau perfformiad ysgol. 

Mae'r newidiadau hyn wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r canlyniadau eleni, sy'n golygu na fydd modd cymharu perfformiad 2017 â'r blynyddoedd a fu. 

Mae'r canlyniadau answyddogol ar gyfer 2017 yn dangos bod 58% o ddisgyblion ysgolion uwchradd Caerdydd wedi cyflawni o leiaf pum gradd A* i C, gan gynnwys mewn Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg - a elwir yn ddangosydd Lefel 2+. 

Eleni, llwyddodd 94% o ddisgyblion i gael 5 neu fwy o TGAU gradd A* i G (mesur Lefel 1), tra bod 70% o ddisgyblion Caerdydd wedi cyflawni 5 neu fwy o TGAU gradd A* i C (neu Lefel 2). 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogadwyedd a Sgiliau: "Rwyf wedi mwynhau ymweld ag ysgolion uwchradd ar draws Caerdydd heddiw, yn cwrdd â disgyblion sy'n derbyn eu canlyniadau TGAU ac yn siarad â staff. 

"Daw llwyddiant heddiw yn dilyn llawer o flynyddoedd o waith caled, a hoffwn longyfarch pawb a gasglodd eu canlyniadau y bore yma. 

"Er mai dyma yw blwyddyn gyntaf trefniadau newydd yr arholiadau yng Nghymru, a'n bod ni i bob pwrpas ym mlwyddyn sero, mae'r darlun yng Nghaerdydd yn un cadarnhaol a bydd canlyniadau 2017 yn darparu cymhariaeth ddefnyddiol ar gyfer y dyfodol. 

"Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y DU, gydag economi fywiog yn cynnig cyfleoedd gyrfaol gwych i'n pobl ifanc. 

"Drwy lwyddo mewn addysg, bydd modd i ddisgyblion y ddinas fod yn y sefyllfa orau posib i fanteisio'n llawn ar y cyfleoedd yng Nghaerdydd. 

"Rwy'n dymuno'r gorau i'r holl ddisgyblion ar gyfer y dyfodol, wrth iddynt bontio i addysg bellach, cyflogaeth a hyfforddiant." 

Ar adeg ysgrifennu'r datganiad hwn, mae'r holl ganlyniadau eto i'w cadarnhau ac yn seiliedig ar wybodaeth a gafwyd gan yr holl fyrddau arholi.