Gallwch ddisgwyl tridiau'n llawn o gyffro'r byd chwaraeon, cerddoriaeth a hwyl i'r teulu dros benwythnos Gŵyl y Banc wrth i Ŵyl Harbwr Caerdydd ddychwelyd gyda sblash anhygoel.
Gan roi croeso i'r Gyfres Hwylio Eithafol am y chweched flwyddyn o'r bron, mae'r digwyddiad yn croesawu morwyr gorau'r byd wrth i fflyd o dimau hwylio rhyngwladol angori yng Nghaerdydd ar chweched cymal eu taith fawr fyd-eang.Mae hyn yn cynnwys Academi BAR Land Rover Prydain, y mae ei griw yn cael ei fentora gan uwch aelodau o dîm Cwpan America Syr Ben Ainslie.
Rasio Stadiwm fydd uchafbwynt y digwyddiad bob dydd rhwng 2pm-5pm.*
Yn newydd ar gyfer 2017 mae cyfres y Flying Phantom. Bydd y catamaranau roced-poced bach yn cychwyn bob bore o 10am tan 2pm*, cyn y prif ddigwyddiad Hwylio Eithafol yn y prynhawn.
Ar dir sych bydd yna wledd o adloniant addas i bawb, yn dechrau gyda'r Ffanbarth am ddim fydd wedi ei leoli ger yr Eglwys Norwyaidd. Ar agor o Ddydd Sadwrn 26 tan 28 Awst mae hwn yn llecyn perffaith i wylio'r cyffro tra'n mwynhau adloniant, bar, stondinau bwyd a sylwebaeth fyw arbenigol ar y rasio. Am y tro cyntaf yng Ngŵyl Harbwr Caerdydd, nos Sadwrn yw'r noson gerddoriaeth fyw, felly dewch draw i'r Ffanbarth o 5pm ymlaen i ymdrochi yn awyrgylch yr ŵyl ar ddec yr Eglwys Norwyaidd a churo'ch traed i seiniau tri band gwych.
Caiff gwesteion iau fôr o hwyl draw ym Mharc Britannia - mae'r anhygoel forfil aer yn ôl! Dringwch i mewn i'r anifail maint morfil go iawn a chlywed straeon y môr gan fôr-leidr a morforwyn sy'n byw yn stumog y morfil. Draw tua grisiau'r Senedd gallwch weld sioe ryfeddol Captain Starfish neu rhyfeddwch wrth i Felicity Footloose ddawnsio a jyglo cyllyll yn y sioe stryd wych hon. Peidiwch â cholli'r anhygoel Cling Film Guy sy'n mynd â dianc i'r lefel nesaf, ac ar gyfer ffans adrenalin bydd yr ysbrydoledig Inspire BMX ym Mhentref y Ras drwy'r penwythnos.
Peidiwch ag anghofio galw draw yn stondinau crefft y Sgwâr Tir a Môr ar gyfer eu digwyddiad olaf yr haf hwn. Byddan nhw'n gwerthu ystod eang o nwyddau o safon uchel sy'n addas i bocedi o bob maint!
Mar Roald Dahl Plass wedi ei drawsnewid wrth i Draeth Bae Caerdydd Capital FM gyflwyno glan môr dinesig gyda llond bwced o hwyl i ddiddanu'r plant ac atyniadau yn cynnwys traeth tywod mawr, ardal chwarae dŵr ac amrywiaeth o reidiau ffair a gemau i'r teulu cyfan. Gydag adloniant byw am ddim, bwyd a diod gwych a chadeiriau dec traddodiadol i ymlacio ynddynt, mae hwn yn agwedd arall ar yr ŵyl sy'n rhaid i chi ei weld, ac ar Ddydd Sul 27 am 8.30pm bydd y traeth yn gartref i sinema Moana.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Bob blwyddyn mae'r digwyddiad ffantastig yma yn dangos Bae Caerdydd ar ei orau. Os oes teulu ifanc gennych neu os carech ddod yma i brofi rhywfaint o chwaraeon byw anhygoel, mae rhywbeth yma i bawb. Gyda cherddoriaeth fyw nos Sul yn yr Eglwys Norwyaidd rwy'n hyderus y bydd yr awyrgylch yn anhygoel.
"Gyda llai na blwyddyn tan fod Ras Cefnfor Volvo yn cyrraedd y ddinas, bydd Bae Caerdydd wedi ei drawsnewid yn hyb chwaraeon rhyngwladol. Gyda phentref y ras yn denu miloedd o ymwelwyr i'r ddinas mae disgwyl y bydd hwn yn un o'r digwyddiadau chwaraeon mwyaf i ddod i brifddinas Cymru ac un y dylem gyffroi yn ei gylch."
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Seilwaith: "Mae Gŵyl Harbwr Caerdydd yn profi ei hun fel digwyddiad poblogaidd yng nghalendr yr haf ac edrychwn ymlaen i groesawu Hwylio Eithafol yn ôl i Gymru eto am y chweched tro. Mae'r digwyddiad yn rhoi lle ar fap y byd i Gaerdydd ochr yn ochr a phrif leoliadau eraill ac yn rhoi'r cyfle i ni hyrwyddo Bae Caerdydd yn rhyngwladol fel lleoliad hwylio a chwaraeon dŵr o'r safon uchaf. Mae hyn yn parhau i'n rhoi ni mewn sefyllfa dda i ddenu digwyddiadau campau dŵr rhyngwladol eraill wrth i ni baratoi i ddathlu Blwyddyn y Môr yng Nghymru, gyda Ras Cefnfor Volvo yn ymweld â Chaerdydd yn 2018."