Back
Canu clod Canolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd am weithio gyda cyn-filwyr

DoughtyBu i'r AS Stephen Doughty ymweld â DGRhC heddiw (dydd Gwener, 28 Gorffennaf) i ganu clod y ganolfan a'i datgan hi'r ganolfan ragoriaeth orau am helpu cyn-filwyr wedi'u hanafu yn y gymuned.

Mae'r ganolfan wedi helpu nifer o hen filwyr sydd wedi'u hanafu i wella drwy gynnig therapi chwaraeon wedi'i oruchwylio mewn amgylchedd diogel. Mae grantiau gan Help for Heroes wedi helpu'r cyn-filwyr i ddatblygu eu sgiliau a'u hiechyd meddwl ymhellach, ac mae niferoedd y grŵp yn cynyddu.

Mae Neil Edward Jones, o Ganolfan Weithgareddau Hen Filwyr Caerdydd, wedi canmol staff a mwynderau DGRhC. Dywedodd: "Mae Therapi Chwaraeon yn effeithio'n gadarnhaol ar iechyd meddwl ac mae DGRhC yn arwain y ffordd o ran helpu cyn-filwyr wedi'u hanafu i adennill eu hyder a'u hunan-barch. Hoffwn ddiolch o waelod calon i DGRhC, mae'r staff yno'n wych, yn groesawgar iawn bob tro ac yn rhoi o'u hamser eu hunain i badlo gyda ni."

Mae Neil wedi dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma, darllenwch ei stori yma

https://captainseathmemorialfund.wordpress.com/2017/04/14/captain-david-seath-memorial-fund-beneficiary-neil-edward-jones/