Back
Rhaglen ‘Antiques Roadshow’ yn dod i Gastell Caerdydd

[image]

Os ydych chi wastad wedi bod eisiau gwybod beth yw gwerth y paentiad yr ydych chi wedi'i etifeddu, neu efallai'r fâs Tsieineaidd y gwnaethoch chi ei phrynu am bris rhad yn eich gwerthiant cist car lleol, yna Castell Caerdydd yw'r lle i fod fis nesaf!

Mae hynny oherwydd y caiff rhaglen oriau brig y BBC ar nosweithiau Sul, sefAntiques Roadshow, ei recordio yn y castell ddydd Mercher 6 Medi.

Mae'r rhaglen deledu'n dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed eleni, ac fel arfer bydd llawer o arbenigwyr blaenllaw ar hen bethau a'r celfyddydau cain ym Mhrydain wrth law i gynnig cyngor a phrisiadau am ddim i'r ymwelwyr, a wahoddir i chwilio yn eu hatigau a dod ag eiddo etifeddol eu teuluoedd, trysorau'r cartref a bargeinion arwerthiant cist y car i'w hymchwilio gan yr arbenigwyr.

Dywedodd cyflwynydd y rhaglenAntiques Roadshow,Fiona Bruce:"Y rhan orau o weithio ar Antiques Roadshow yw nad ydym byth yn gwybod pwy neu beth sy'n mynd i ymddangos ar y diwrnod. Mae'r ymwelydd, y gwrthrychau maent yn dod gyda nhw, eu storïau a'r lleoliad oll yn creu profiad gwych rydym yn ceisio ei drosglwyddo i'r gwylwyr. "Os ydych yn hoffi Antiques Roadshow, yn chwilfrydig i weld y tu ôl i'r llen, neu os ydych am gael diwrnod allan, byddwn yn argymell eich bod yn dod o hyd i'ch trysorau a dod atom - byddem wrth ein boddau yn eich gweld chi!"

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'n anrhydedd mawr fod rhaglen deledu mor nodedig â'r Antiques Roadshow wedi dewis Castell Caerdydd yn un o'i lleoliadau ar gyfer cyfres ben-blwydd y rhaglen yn 40 oed. Dyma'r lleoliad perffaith ar gyfer rhaglen sydd wedi dod yn sefydliad cenedlaethol ac y mae miliynau o bobl yn ei gwylio. Rwyf wirioneddol yn gobeithio y bydd rhywun o Gaerdydd yn cael ei syfrdanu pan fyddant yn dysgu beth yw gwir werth rhywbeth yr oedd ganddynt wedi'i gadw yn yr atig."

Mae croeso i ymwelwyr ddod draw ar y diwrnod, ond os bydd ganddynt eitem sydd â stori arbennig o anarferol, neu efallai casgliad diddorol, neu eitemau dodrefn mawr, gofynnir iddynt roi gwybod i'r rhaglen ymlaen llaw trwy'r ddolen ‘Share Your Story' arwww.bbc.co.uk/antiquesroadshow

Dywedodd Golygydd Gweithredol Antiques Roadshow, Simon Shaw: "Rydym yn edrych ymlaen at ddod i'r Castell godidog yng Nghaerdydd ddydd Mercher 6 Medi. Dylai lleoliad a phensaernïaeth Castell Caerdydd ddarparu un o'r cefndiroedd mwyaf trawiadol ar gyfer y rhaglen Antiques Roadshow yn y blynyddoedd diweddar. "Mae ein tîm o arbenigwyr a Fiona wrth eu boddau yn clywed storïau pobl ac yn gweld pa eitemau maent yn dod gyda nhw, felly rydym yn gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn dod i Gastell Caerdydd i fwynhau'r hyn y mae ein hymwelwyr yn dweud wrthym yn gyson sy'n ddiwrnod gwych. Hyd yn oed ar ôl 40 mlynedd, mae'r fformiwla hud o synnu rhai gwesteion ffodus gyda newyddion cyffrous am eu trysorau yn wefr i ni, yr ymwelwyr a'r gwylwyr o hyd."

Ceir rhagor o wybodaeth am fynychu'r recordiad yn: www.bbc.co.uk/antiquesroadshow Fel arall, anfonwch e-bost at:Antiques.roadshow@bbc.co.ukneu ysgrifennwch at Antiques Roadshow, BBC, Whiteladies Road, Bryste BS8 2LR.