Mae'r gwaith i adeiladu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd yn mynd rhagddo, gan nodi dechrau project a fydd yn dyblu maint Ysgol Glan Morfa yn Sblot.
Wedi'i lleoli ar Lewis Road, bydd yr ysgol werth £7.8m yn cynnig lle newydd i Ysgol Glan Morfa pan fydd yn symud yr haf nesaf o'i lleoliad presennol ger Moorland Road.
Wedi'i ariannu gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru drwy raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y ddinas, gwerth £164m, bydd gan yr ysgol newydd ddigon o le ar gyfer hyd at 420 o ddisgyblion, mewn dau ddosbarth i bob blwyddyn o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 6, ac yn cynnig 80 o leoedd meithrin rhan-amser.
Mae'r cynllun yn cynnwys oddeutu 2,500 metr sgwâr o arwynebedd llawr mewn ysgol gynradd deulawr ac adeilad meithrin.
I nodi dechrau'r gwaith adeiladu, croesawodd Mr Meilir Tomos (pennaeth) ynghyd â disgyblion a Gareth Price, cadeirydd y llywodraethwyr, y gwesteion i seremoni torri tywarch ar y safle newydd.
Roedd y gwesteion yn cynnwys y Cyng. Sarah Merry (Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd ac Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau), y Cyng. Huw Thomas (Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd Sblot a llywodraethwr yn Ysgol Glan Morfa), y Cyng. Ed Stubbs a'r Cyng. Jane Henshaw (cynghorwyr Sblot), staff Cyngor Caerdydd a chynrychiolwyr o Morgan Sindall, y cwmni sydd wedi'i benodi i adeiladu'r ysgol.
Dywedodd Mr Meilir Tomos: "Mae hyn yn gyfnod cyffrous i bawb yn Ysgol Glan Morfa, ac i addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd, gan nodi cerrig milltir mawr yn y gwaith i greu cartref newydd sbon i'r ysgol.
"Mae'n wych i feddwl y byddwn yn gallu cynnig lle i ddwbl y plant yn yr adeilad newydd, gan adlewyrchu'r cynnydd yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal leol.
"Mae'r plant wedi cyffroi'n lân, ac mae'n grêt i weld rhai ohonynt yn cymryd rhan yn y seremoni. Rydym yn edrych ymlaen at Gorffennaf 2018 ac at gynnig yr addysg orau i blant Sblot."
Mae dyluniad yr ysgol yn ymgorffori cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys ardal gemau aml-ddefnydd ac ystafell i'w llogi.
O'r chwith: Mr Meilir Tomos, y Cyng. Huw Thomas, y Cyng. Sarah Merry a
Gareth Price gyda disgyblion o Ysgol Glan Morfa
Dywedodd y Cyng. Sarah Merry: "Roedd hi'n braf iawn gweld cymaint oedd y plant wedi cyffroi wrth i agoriad eu hysgol newydd ddod yn agosach fyth. Roeddent yn ffantastig yn fy helpu i dorri tywarch!"
"Mae'r gwaith i ddyblu maint Ysgol Glan Morfa yn fwy o dystiolaeth o'r gwaith yr ydym yn ei wneud i barhau i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac i roi mwy o ddewis i rieni yng Nghaerdydd.
"Mae Caerdydd 2020 - ein gweledigaeth am addysg a dysgu yng Nghaerdydd - yn glir yn ymrwymo i gynnig mwy o lefydd ysgol, gan sicrhau bod darpariaeth ar gael i bob teulu sy'n dewis addysg cyfrwng Cymraeg."
Ar hyn o bryd, mae 17 ysgol cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd, un ym mhob dalgylch ar gyfer un o dair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg y ddinas - Bro Edern, Glantaf a Plasmawr.
Dywedodd y Cyng. Sarah Merry: "Ynghyd â'r gwaith yr ydym eisoes wedi'i wneud i roi cartref newydd i Ysgol Glan Morfa yn Sblot, mae cynlluniau ar waith hefyd i ddarparu ysgolion addas i bwrpas ar gyfer Ysgol Hamadryad yn Butetown ac Ysgol Glan Ceubal yn Ystum Taf."
Rhoddodd Cyngor Caerdydd y contractau i Morgan Sindall i adeiladu Ysgol Glan Morfa ac Ysgol Gynradd Howardian ym Mhen-y-lan.
Dywedodd Cyfarwyddwr Rhanbarthol y cwmni, Rob Williams: Rydym yn falch o fod yn gweithio'n agos gyda Chyngor Caerdydd i adeiladu'r ysgol arbennig hon.
"Mae gennym raglen o weithgareddau ymgysylltu cyffrous a fydd yn fuddiol i ddisgyblion a'r gymuned ehangach yn ystod y project."
Mae'r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru i greu'r ysgolion cywir yn y llefydd cywir.
Mae Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif presennol Cyngor Caerdydd (‘Band A') gwerth £164m.
Dyma'r cynlluniau sydd newydd eu hadeiladu gyda chyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif Band A:
Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd
Ysgol Uwchradd y Dwyrain
Ysgol Gynradd Gabalfa
Ysgol Gynradd Howardian
Ysgol Glan Ceubal
Ysgol Glan Morfa
Ysgol Hamadryad
Prif flaenoriaethau'r rhaglen fuddsoddi yw:
Sicrhau bod y cyflenwad yn ddigon i ateb y galw
Buddsoddi mewn ysgolion newydd ac adfywio ysgolion presennol
Ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg
Creu darpariaeth feithrin ar safleoedd ysgolion cynradd