Ymwelwyr Caerdydd ar eu huchaf yr haf yma
Caerdydd sydd ar frig y rhestr o'r hoff leoliadau gwyliau yr haf yma.
Yn ôl ffigurau newydd, bu rhagor o gynnydd ym mhoblogrwydd gwyliau yng Nghaerdydd ymysg Prydeinwyr nag unman arall yn Ewrop.
Bu cynnydd aruthrol yn y chwiliadau am westai ym mhrifddinas Cymru ar y chwilotwr teithio Kayak.co.uk o 223% ar gyfer haf 2017, o'u cymharu â chwiliadau'r haf diwethaf.
Mae Kayak yn priodoli poblogrwydd gwestai yng Nghaerdydd at yr haf yma i'r digwyddiadau niferus yn y ddinas, ac i ddiwylliant, celfyddydau a bwytai ffyniannus.
Mae'r ffigurau'n dod i'r amlwg ar yr un pryd ag amrediad o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd yn rhan o ymgyrch haf #CaerdyddYw Cyngor Caerdydd.
Mae bwyd blasus o ledled y byd, traeth tywod, reidiau ffair hwyl i'r teulu cyfan a hwylio llawn adrenalin yn rhai o'r digwyddiadau ar gael yr haf yma.
Mae'r Ŵyl Bwyd a Diod Ryngwladol yn ôl ym Mae Caerdydd am y 18fed dro ar 14, 15 ac 16 Gorffennaf. Bydd mwy na 100 o gynhyrchwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn cyflwyno eu nwyddau.
Gan gyfeirio at safle Caerdydd ar y brig, dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: "Dyw e ddim yn fy synnu mewn gwirionedd bod mwy o bobl wedi bod yn chwilio am Gaerdydd ar gyfer eu gwyliau yr haf yma.
"Mae cymaint yn digwydd yma i'r teulu cyfan yn ein dinas ysblennydd drwy gydol yr haf ac mae ymwelwyr yn siŵr o gael croeso cynnes iawn."
Gwnaeth y Cynghorydd Bradbury hefyd bwysleisio bod Caerdydd yn lle gwych i ymwelwyr yn yr haf ac ar adegau eraill.
Ychwanegodd: "Ond wrth gwrs, nid lleoliad haf yn unig mohonom. Mae Caerdydd yn lleoliad i ymwelwyr 365 diwrnod y flwyddyn, ac mae rhywbeth i bawb - teuluoedd, unigolion, ifanc a hen, pobl fusnes, grwpiau a'r sawl sydd am drefnu gwyliau haf.
"Mae gennym ni galendr o ddigwyddiadau poblogaidd dros ben, heb gost neu â chost, drwy gydol y flwyddyn."
Dywedodd Suzanne Perry, arbenigwr teithio yn KAYAK: "Yn KAYAK, rydym ni wrth ein boddau'n adnabod tueddiadau yn ein data ar leoliadau teithio.
"Mae llawer i'w weld ac i'w wneud, mae gwerth da am arian, ac wrth gwrs mae llawer o ddigwyddiadau yn y stadiwm, felly mae'n wych gweld bod cynifer o Brydeinwyr am ymweld â phrifddinas Cymru'r haf yma."
I gael rhagor o wybodaeth am dymor haf Caerdydd, ewch i: www.visitcardiff.com &www.cardiff-events.com/cardiffissummer/
Mae'r data wedi'i seilio ar chwiliadau am deithiau awyren a gwestai gan Brydeinwyr ar KAYAK.co.uk rhwng 1 Ionawr 2016 a 31 Rhagfyr 2016, i deithio rhwng 1 Gorffennaf 2017 a 31 Awst 2017. Tynnir cymhariaeth â chwiliadau rhwng 1 Ionawr 2015 a 31 Rhagfyr 2015, i deithio rhwng 1 Gorffennaf 2016 a 31 Awst 2016.