Bydd rhan o Llandaff Road ar gau nos Lun am bum awr o 8pm ymlaen
O 8pm nos Llun (26 Mehefin) tan 1am bore Mawrth - bydd Llandaff Road ar gau o'r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i'r gyffordd â Romilly Road.
Bydd wyneb gwrth-sglefrio yn cael ei osod ar y darn hwn o'r ffordd yn rhan o gynllun 20mya Treganna ac mae'r gwaith wedi'i gynllunio gyda'r nos i leihau'r effaith ar rwydwaith y priffyrdd er budd trigolion a busnesau.
Bydd arwyddion amlwg yn cyfeirio'r dargyfeiriad drwy Romilly Crescent, Wyndham Crescent a Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.