Bydd diwrnod o hwyl i'r teulu, wedi ei ysbrydoli gan yr Aelod Seneddol Jo Cox a'i chred bod mwy yn gyffredin rhyngom nag sy'n ein gwahanu, yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Stori Caerdydd.
Ymhlith y llu o weithgareddau hwyliog fydd yn rhan o'r Diwrnod Dod Ynghyd ar ddydd Sadwrn 17 Mehefin fydd: gweithgareddau crefft, paentio wynebau, teithiau amgueddfa yn dathlu treftadaeth cymunedau Caerdydd a storïau hudolus gan y storiwraig Cath Little. Bydd y diwrnod yn cychwyn am 10 y bore ac yn dod i ben am 3 y prynhawn. Bydd gweithgareddau hefyd yn cael eu cynnal yng Ngardd Eglwys Sant Ioan drws nesaf i'r amgueddfa.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden yng Nghyngor Caerdydd, y Cyng Peter Bradbury: "Dathlu ein cymunedau amrywiol yma yng Nghaerdydd yw nod y diwrnod hwyliog hwn i'r teulu cyfan, a dathlu hefyd bopeth sy'n gyffredin rhyngom. Dwi'n gwybod y byddai Jo Cox wedi bod yn falch iawn ohono. Un o'r gweithgareddau sy'n digwydd - a dwi'n meddwl bod hwn yn syniad hyfryd - yw dysgu sut i ddweud "croeso" mewn pump o ieithoedd gwahanol. Bydd croeso cynnes ar y diwrnod yn sicr, a byddwn yn annog pawb i daro draw i Amgueddfa Stori Caerdydd ar gyfer diwrnod gwych."
Dywedodd Rheolwr Amgueddfa Stori Caerdydd, Victoria Rogers: "Bydd hwn yn ddigwyddiad mawr i'r teulu cyfan - yn ddiwrnod lliwgar i ddathlu bywyd.Mae Caerdydd wedi ei chreu gan lawer o gymunedau gwahanol yn byw ac yn gweithio gyda'i gilydd, ac rydym yn defnyddio'r hyn sy'n ein huno - storïau, cerddoriaeth, bwyd a hwyl - i ddathlu ein bywyd gyda'n gilydd. Rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd gwesteion arbennig yn ymuno â ni - cerddwyr y Daith Gerdded Fawr, sydd wedi bod yn cerdded o etholaeth Jo yn Swydd Efrog a nôl i Gymru dros yr 21 diwrnod diwethaf."
Mae Diwrnod Dod Ynghyd Amgueddfa Stori Caerdydd yn rhan o raglen o ddigwyddiadau ledled y Deyrnas Unedig er cof am yr Aelod Seneddol Jo Cox, a lofruddiwyd y llynedd, a'i chred bod mwy yn gyffredin rhyngom nag sy'n ein gwahanu.