Bydd rhan o Ffordd Caerdydd yn Llandaf ar gau ddydd Sul, 11 Mehefin i hwyluso gwaith ailwynebu fel rhan o'r datblygiad tai Churchills newydd.
Bydd Ffordd Caerdydd ar gau o'r gyffordd â Lôn y Felin i'r gyffordd â Pencisely Road / Penhill Road yn y ddau gyfeiriad ar 11 Mehefin rhwng 8am ac 8pm.
Tra bod y ffyrdd ar gau, bydd gwyriad ag arwyddion clir, ac fe ganiateir mynediad i breswylwyr bob tro.
Mae'r gwaith wedi'i drefnu ar gyfer dydd Sul i leihau unrhyw oedi o ran traffig a hoffai Cyngor Caerdydd ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra yn sgil hyn.