Mae cyn-Arglwydd Faer Caerdydd wedi cyhoeddi bod dros £ 105,000 wedi'i godi yn ystod ei blwyddyn yn y rôl ar gyfer ei helusen ddewisol, sef Ymchwil Canser Cymru.
Yng nghyfarfod llawn y Cyngor yn Neuadd y Ddinas, cyhoeddwyd bod £ 105,699.78 wedi'i godi o ganlyniad i gyfres o ddigwyddiadau codi arian a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn.
Dywedodd Y Gwir Anrh. Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng Monica Walsh: "Carwn ddiolch i bawb a roddodd yn hael i'r elusen haeddiannol hon sydd mor agos at fy nghalon. Rydym wedi codi dros £ 105,000 sy'n llwyddiant mawr, a dylem gofio hefyd bod llawer o arian yn dal i ddod i mewn o ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn ddiweddar. Rwy'n siarad o brofiad wrth ddweud bod llawer o deuluoedd yn dioddef oherwydd y clefyd creulon hwn, ac ar eu rhan nhw hoffwn ddiolch i drefnwyr y digwyddiadau codi arian a gynhaliwyd dros y 12 mis diwethaf am sicrhau bod yr arian ychwanegol hwn ar gael i daclo canser yng Nghymru."
Dywedodd Katie Killoran, Codwr Arian Corfforaethol Ymchwil Canser Cymru: "Rydym yn ofnadwy o falch o'r cyfanswm a godwyd gan yr Arglwydd Faer eleni. Bydd yr arian hwn yn help sylweddol i ariannu ymchwil penigamp mewn prifysgolion ac ysbytai ledled Cymru i ddiagnosis cynnar, triniaeth ac atal canser."
Un o'r digwyddiadau codi arian diweddaraf oedd Ras Cwch y Ddraig ar Lanfa'r Iwerydd ym Mae Caerdydd, sydd wedi codi£12,499.40hyd yma ar gyfer Elusen yr Arglwydd Faer.