Back
Cynghorydd yn cerdded rhan o Wal Fawr Tsieina er budd elusen


Mae un o Gynghorwyr Caerdydd newydd ddychwelyd adref ar ôl cerdded 22 milltir o Wal Fawr Tsieina er budd elusen 

Ymunodd y Cynghorydd Dilwar Ali, a’i gefnder Mohammed Abdul Salam, â grŵp o bobl a oedd yn cerdded ar hyd rhan o un o Saith Rhyfeddod y Byd i godi arian  i elusen yr Arglwydd Faer, sef Ymchwil Canser Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd dros Ystum Taf, y Cynghorydd Dilwar Ali: “Roedd cerdded ar hyd Wal Fawr Tsieina yn brofiad anhygoel fydd yn aros gyda fi am byth. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i godi £6,713.00 mewn nawdd gan nifer o sefydliadau yr oedden ni’n dangos eu logos yn glir ar y crysau T roedden ni’n eu gwisgo ar y daith, fel cydnabyddiaeth. Ces i gyfle hyd yn oed i osod bricsen ar safle’r gwaith adnewyddu ar y wal yn ardal Badaling! Diolch o galon i bawb a noddodd fi. Dyw hi ddim yn rhy hwyr cyfrannu drwy fy nhudalen just giving: www.justgiving.com/fundraising/dilwar-ali .”   

Dywedodd Y Gwir Anrh. Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Monica Walsh:  Hoffwn ddiolch  i’r Cynghorydd Ali a’i gyd-cerddwyr am ddewis yr elusen haeddiannol hon i’w chefnogi pan oedden nhw’n ymweld ag un o ardaloedd hynotaf y blaned. Cefais fodd i fyw yn edrych ar luniau’r Cynghorydd Ali. Roedd pawb fel petai nhw’n mwynhau’n fawr yn y lleoliad godidog hwn tra’n codi arian hefyd at Ymchwil Canser Cymru.”   

I ddarllen mwy am waith Ymchwil Canser Cymru, ewch i: www.cancerresearchwales.co.uk/cymraeg/