Back
Wythnos Ymwybyddiaeth Demensia 2017

Wythnos Ymwybyddiaeth Demensia 2017

 

Rhestr o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd

 

 

Dydd Llun, 15 Mai

 

Stondin Wybodaeth

 

Y dderbynfa, Llyfrgell Ganolog

Yn ystod oriau agor y llyfrgell

Sesiynau Cyfeillion Demensia a hyrwyddo ‘Side by Side'

Mae ‘Side by Side' yn sgrinio ac yn paru gwirfoddolwyr am o leiaf 6 mis yn seiliedig ar eu diddordebau.

Lolfa Greadigol, 5ed llawr, Llyfrgell Ganolog

11.00am ac 1.00pm

Sesiynau Cyfeillion Dementia

Llyfrgell Ganolog Caerdydd

11am i 12pm ac 1pm i 2pm

Stondin Wybodaeth

Croeso i bawb, gwybodaeth a chyngor i bobl gyda Demensia, Teulu, Gofalwyr ac ati

Hyb Grangetown

1pm tan 4pm

Arddangosfa lyfrau a man gwybodaeth

Arddangos llyfrau perthnasol a thaflenni gwybodaeth.

Hyb Trelái a Chaerau

 

Stondin Wybodaeth

Bydd staff Gwaith Cymdeithasol a Gweithwyr Asesiadau Gofalwyr ar gael i drafod ac i roi gwybodaeth a chyngor.

Y Llyfrgell Ganolog

10:00am tan 3:00pm

Stondin wybodaeth

Stondin i'w gosod gyda balŵns ac ati a llyfrynnau i fynd gartref/apwyntiadau Pensionwise i'w cynnal yn yr hyb

Cyntedd, Hyb Llanrhymni

Dydd Llun 15ed, 9.00 - 18.00

Dosbarth achau

Gweithgaredd Hyb - Cefnogi'r cyhoedd wrth ddefnyddio achau i ddarganfod hanes eu teulu.

Hyb Llaneirwg

Dydd Mawrth 16eg 11 - 12:30

 

Nifer gyfyngedig o leoedd ar gael.

Te Prynhawn

 

Caffi Porters - Hyb Ystum Taf a Gabalfa

2:30-4:00pm

 

 

Dydd Mawrth, 16 Mai

 

Stondin Wybodaeth

 

Y dderbynfa, Llyfrgell Ganolog

Yn ystod oriau agor y llyfrgell

Demensia a chanu: Sgrinio'r rhaglen ddogfen ‘Before I Leave'

Mae llyfrgelloedd Caerdydd wedi ymuno â Theatr Genedlaethol Cymru a Patrick Jones i sgrinio'r rhaglen ddogfen ynghylch creu'r cynhyrchiad hynod lwyddiannus, 'Before I Leave'. Mae ‘Before I Leave' yn gynhyrchiad doniol, teimladwy a hwylus ar y cyfan sydd wedi'i ysbrydoli gan gorau cymuned o bobl â demensia.

Lolfa Greadigol, 5ed llawr, Llyfrgell Ganolog

11.00am

Darllen Cerddi

Bydd Patrick Jones yn darllen o gasgliad o gerddi sydd heb ei orffen eto, sydd wedi'i ysbrydoli gan ei brofiadau o weithio gyda phobl sy'n gweld effaith demensia, gan rannu'r profiad o ysgrifennu 'Before I Leave' a hefyd yn cynnig ychydig o syniadau am ysgrifennu byr er mwyn cael pawb i rannu eu storïau.

Lolfa Greadigol, 5ed llawr, Llyfrgell Ganolog

O 12pm

Project digidol ‘I'll Sing This Song'

Bydd Paul Thomas, a greodd y project digidol 'I'll Sing This Song' yn siarad ac yn arddangos yr app a oedd yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â Before I Leave.

Lolfa Greadigol, 5ed llawr, Llyfrgell Ganolog

O 12pm

Stondin Un Dydd

Croeso i bawb, gwybodaeth a chyngor i bobl gyda Demensia, Teulu, Gofalwyr ac ati

Sgwâr Loudon (y tu allan i Hyb Loudon)

10:00am - 04:00pm

Caffi Forget Me Not

Cynnig amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar sy'n addas i bobl gyda phroblemau â'u cof a'u gofalwyr, i bobl sy'n gwella ar ôl strôc, neu i bobl sy'n teimlo'n unig ac yn agored i niwed.

Ystafell Ysgol St. Edwards

2pm - 4pm

Arddangosfa lyfrau a man gwybodaeth

Arddangos llyfrau perthnasol a thaflenni gwybodaeth

Hyb Trelái a Chaerau

 

Te Prynhawn

 

Caffi Porters - Hyb Ystum Taf a Gabalfa

2:30-4:00pm

 

 

Dydd Mercher, 17 Mai

 

Stondin Wybodaeth

 

Y dderbynfa, Llyfrgell Ganolog

Yn ystod oriau agor y llyfrgell

Stondin Wybodaeth yn Chapter

Ar y cyd â digwyddiadau fydd yn cael eu cynnal yn Chapter o 9am i 8pm. Croeso i bawb, gwybodaeth a chyngor i bobl gyda Demensia, Teulu, Gofalwyr ac ati

Chapter

O 11am

Dangos Ffilmiau sy'n Addas ar gyfer Demensia

Mae ffilmiau sy'n addas ar gyfer pobl sydd â demensia yn Chapter yn gyfle gwych i bobl sy'n byw â demensia i ddod i fwynhau ffilm mewn amgylchedd cyfeillgar a hwylus. Caiff y ffilmiau eu dangos heb hysbysebion, ac mae'r goleuadau ychydig yn well yn yr awditoriwm. Mae croeso i bawb i ddod i wylio'r ffilm.

Pris tocyn: £4.50 gan gynnwys paned o de neu goffi. Mae tocynnau gofalwyr am ddim. Er mwyn cadw lle, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400 neu archebwch ar-lein. Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gyfer cadeiriau olwyn.
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch y Swyddfa Docynnau, e-bostiwch cydlynydd y project ar
ellie.russell@chapter.orgneu ewch i www.chapter.org/dementia-friendly-screenings

Chapter

Ffilmiau sy'n cael eu dangos:
Their Finest (12A) 10:30am, Sinema 1
Calamity Jane: Singalong(U) 2:00pm, Sinema 1
Forget-me-not Chorus: Rhaglen Ddogfen + Perfformiadau Byw gan y Côr Forget-me-not ac Only Men Aloud 5.30pm, Cyntedd y Sinema a 6.00pm, Sinema 1
Early Silent Comedy Shorts gyda Cherddoriaeth Fyw4.00pm, Sinema 2
Mad To Be Normal Sgrinio gyda Lens Tywyllach4.00pm, Sinema 1

Sesiynau Cyfeillion Demensia - Chapter

Yn ystod y sesiynau cyfeillgar a rhyngweithiol, byddwch yn cynyddu'ch dealltwriaeth o ddemensia ac yn meddwl am y pethau bach y gallwch chi ei wneud i wneud gwahaniaeth i bobl y mae gan ddemensia effaith arnynt yn y gymuned.

Llawr Gwaelod, Chapter

9:30am tan 10:30am, 12pm tan 1pm, 3pm tan 4pm

Gweithdai a Gweithgareddau Demensia - Chapter

Project Memoria, Sinema 2
Mae croeso i bawb i glywed hanesion cryfder a dewrder, wedi'u perfformio gan bobl sy'n byw â demensia ac aelodau teulu, ac yna sesiwn gwestiynau gyda'r grŵp. Cyflwynir gan Re-Live.

Llawr Gwaelod - Chapter

11:00am i 11:45pm

Taith Drwy Demensia, Profiad Rhithiol Unwaith ac am byth
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn defnyddio app unigryw a ddatblygwyd gan Ymchwil Alzheimer's DU, sydd wedi'i ddylunio i roi chi yn yr un sefyllfa â rhywun sy'n byw â demensia.
Wedi'i gyflwyno mewn rhithwirionedd, byddwch yn edrych ar fywyd drwy bersbectif gwahanol. Cyflwynir ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd.

Llawr Gwaelod, Gofod 1af- Chapter

1:30pm tan 7pm

Sgyrsiau Academaidd
Bydd pobl academaidd ledled disgyblaethau niwrowyddoniaeth, gwyddoniaeth cymdeithasol, biofeddygaeth, y dyniaethau ac athroniaeth yn rhannu eu hymchwil ar ddeall demensia a'r meddwl. Cyflwynir ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd. Ar agor i bawb, am ddim.

Gofod ar y llawr gwaelod - Chapter

1:30pm tan 7pm

Do Not Go Gentle - Perfformiad a Gweithdy
Bydd Cwmni Theatr Everyman yn perfformio detholiadau gyda sgript o'r ddrama, sy'n edrych ar bobl hŷn yn delio gyda heriau bywyd o bersbectif anarferol. Ar ôl y perfformiad ceir trafodaeth a gweithdy.

Llawr Gwaelod, Gofod 1af - Chapter

10:30am tan 1:30pm

Gweithdai Celf, The Pottery
Gwaith gyda'r artist a'r academydd, Yr Athro Catherine Lamont-Robinson i ddarganfod sut gall ymgysylltu â deunyddiau gael effaith bositif ar bobl gyda demensia. Cyflwynir ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd. Ar agor i bawb, am ddim.

Llawr Gwaelod, Chapter

11am tan 12:30pm a 1pm tan 2:30 pm

Hand | Pocket Funshop, Gweithdy Galw Heibio, Dutch Table
Pocedi tecstil synhwyrol a hwylus yw Hand | Pocket, wedi'u dylunio i wneud i bobl sydd â demensia datblygedig i chwerthin, i'w cysuro ac i ymgysylltu â hwy. Dewch i greu eich poced eich hun, un ai ar gyfer ffrind penodol neu aelod o'r teulu neu er mwyn ei roi i rywun â demensia. Cynhelir y project hwn gan Ganolfan Ymchwil CARIAD. Cydweithrediad ydyw rhwng yr Athro Cathy Treadaway ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd a Dr Gail Kenning, Prifysgol Dechnoleg, Sydney. Ar agor i bawb, am ddim.

Llawr Gwaelod yn Caffi/Bar, Chapter

10am tan 4pm

Canu i'r Ymennydd

 

Eglwys Sant Alban,

Sblot

1:30pm tan 2:30pm

Arddangosfa lyfrau a man gwybodaeth

Arddangos llyfrau perthnasol a thaflenni gwybodaeth.

Hyb Trelái a Chaerau

 

Sesiwn ymwybyddiaeth Cyfeillion Demensia

Sesiwn agored i unrhyw un sy'n dymuno dod yn gyfaill demensia

Hyb Trelái a Chaerau

12:00 - 13:00

Stondin Wybodaeth

Bydd gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr asesiadau gofal ar gael ar gyfer trafodaeth, gwybodaeth a chyngor

Y dderbynfa, Llyfrgell Ganolog

10:00am tan 3:00pm

Siop Treftadaeth RemPod

Mae Llyfrgelloedd Caerdydd yn mynd â'r gwasanaeth i'r siopau! Byddwn yng nghanolfan siopa Dewi Sant 2 gyda Siop Treftadaeth RemPod yn rhoi gwybod i'r cyhoedd am y gwasanaeth sy'n addas i ddemensia yr ydym yn cynnig. O sesiynau cofio mewn cartrefi gofal a chanolfannau dydd, i weithio tuag at weithlu sy'n hollol addas i ddemensia, o e-lyfrau/llyfrau llafar a deunyddiau print mawr i lansiad y Caffi Demensia. Bydd gwasanaethau oedolion hefyd yn yr adeilad yn cynnig cyngor a gwybodaeth.

Canolfan Siopa Dewi Sant 2

 

Stondin Wybodaeth

Croeso i bawb, gwybodaeth a chyngor i bobl gyda Demensia, Teulu, Gofalwyr ac ati

Hyb STAR

1pm tan 4pm

 

 

Dydd Iau, Mai 18

 

Stondin a staff yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd er mwyn cefnogi Lansiad y Caffi Demensia

Croeso i bawb, gwybodaeth a chyngor i bobl gyda Demensia, Teulu, Gofalwyr ac ati

Y dderbynfa, Llyfrgell Ganolog

10am tan 3pm

Lansiad y Caffi Demensia!

Y bwriad yw cynnal y caffi pob pythefnos ar yr un pryd yn dilyn y lansiad.

 

Cacennau cwpan ‘forget me not'.
Te a choffi.

Anogir defnyddwyr i ddod â'u e-lyfrau a dyfeisiau llyfrau llafar os oes ganddynt rai.

 

Bydd staff digidol ar gael i helpu i uwchlwytho llyfrau llafar ac e-lyfrau ynghyd â diwygio gosodiadau megis y ffont.

Bydd detholiad o lyfrau print mawr, straeon byr, llyfrau llafar ac ati ar gael.

Ychydig o gerddoriaeth!

Detholiad o lyfrau atgofion - Caerdydd Ddoe, Lluniau i'w Rhannu ac ati.

Y Llyfrgell Ganolog

11.00am - 1.00pm

Sesiynau Cyfeillion Demensia a hyrwyddo ‘Side by Side'

Mae ‘Side by Side' yn sgrinio ac yn paru gwirfoddolwyr am o leiaf 6 mis yn seiliedig ar eu diddordebau.

Lolfa Greadigol, 5ed llawr, Llyfrgell Ganolog

1pm tan 2pm

Ail-lansio Pryd ar Glud

Bydd y gwasanaeth Pryd ar Glud yn lansio ei frand ddiwygiedig a fydd yn cynnwys newidiadau i'r meini prawf sydd bellach yn galluogi pobl i hunan-gyfeirio.

 

Bydd sesiwn flasu yn cael ei chynnal yn y Caffi Demensia, bydd staff hefyd ar y llawr gwaelod i gyfarch cwsmeriaid ac i roi danteithion ar ran y gwasanaeth.

 

Bydd hefyd stondin wybodaeth a fydd yn cael ei leoli yn y Caffi Demensia ac ar y llawr cyntaf.

 

Llawr Cyntaf, Llyfrgell Ganolog

10.30am - 14.30pm

Côr Tŷ Willcox

Côr Tŷ Willcox Cyngor Caerdydd, rhan o'r Project Iechyd a Llesiant

Llawr Gwaelod, Llyfrgell Ganolog

Hanner dydd

Arddangosfa lyfrau a man gwybodaeth

Arddangos llyfrau perthnasol a thaflenni gwybodaeth

Hyb Trelái a Chaerau

 

Sesiynau Galw Heibio i Ofalwyr

 

Hyb Ystum Taf

10:00am tan 12:00pm

Grŵp FAN

Ffordd gyfeillgar i bobl o'r ardal ddod i gwrdd a siarad a thrafod eu bywydau a'u profiadau

Hyb Y Tyllgoed

2pm - 3pm Dydd Iau

Sesiynau Cyfeillion Demensia - John Lewis

Sesiwn agored i gwsmeriaid

John Lewis, Caerdydd

2pm tan 3pm a 3pm tan 4pm

Sesiynau Cyfeillion Demensia yn Nhŷ Wilcox

Sesiwn Cyfeillion Dementia

Ystafell Armstrong, Tŷ Willcox

12:45pm

 

 

Dydd Gwener, 19 Mai

 

Stondin Wybodaeth

 

Y dderbynfa, Llyfrgell Ganolog

Yn ystod oriau agor y llyfrgell

Taith United Against Dementia

Croeso i bawb i godi ymwybyddiaeth am Ddemensia, am ddim

Llyn Parc y Rhath

11am tan 1pm

Arddangosfa lyfrau a man gwybodaeth

Arddangos llyfrau a gwybodaeth berthnasol

Hyb Trelái a Chaerau

 

‘The Elephant Who Forgot'

Bydd yr awdur a'r diddanwr lleol, Mike Church, yn ymgymryd â sesiwn wybodaeth ddemensia yn seiliedig ar y llyfr ‘The Elephant Who Forgot' gydag ysgol leol. Yn dilyn hyn, bydd y gwasanaeth llyfrgelloedd yn cynnal sesiwn Cyfeillion Demensia gyda'r plant!

Y Llyfrgell Ganolog

 

Stondin Wybodaeth - John Lewis

Croeso i bawb, gwybodaeth a chyngor i bobl gyda Demensia, Teulu, Gofalwyr ac ati

John Lewis, Caerdydd

Digwyddiad trwy'r dydd

 

 

Dydd Sadwrn, 20 Mai

 

Arddangosfa lyfrau a man gwybodaeth

Arddangos llyfrau a gwybodaeth berthnasol

Hyb Trelái a Chaerau

 

Casgliad Bwced yn Ikea Caerdydd

Digwyddiad Codi Arian

Ikea, Caerdydd

10am tan 4pm

Stondin Wybodaeth - John Lewis

Croeso i bawb, gwybodaeth a chyngor i bobl gyda Demensia, Teulu, Gofalwyr ac ati

John Lewis, Caerdydd

Digwyddiad trwy'r dydd